Constance Markievicz: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[File:Countess Markiewicz.jpg|thumb|Iarlles Markiewicz]]
 
Roedd '''Constance Georgine Markievicz, Iarlles Markievicz''' née '''Gore-Booth''' ([[4 Chwefror]], [[1868]] - [[15 Gorffennaf]], [[1927]]) yn wleidydd Gwyddelig, yn genedlaetholwr chwyldroadol, yn [[swffragét]] ac yn sosialaidd. Ym mis Rhagfyr 1918 hi oedd y fenyw gyntaf i'w hethol i [[Tŷ'r Cyffredin|Dŷ'r Cyffredin]], er nad chymerodd ei sedd. Roedd hi'n aelod o'r [[Dáil Éireann]] cyntaf. Fel Gweinidog Llafur Gweriniaeth Iwerddon, 1919-1922 roedd hi'n un o'r merched cyntaf yn y byd i ddal swydd cabinet.<ref>S. Pašeta, ‘Markievicz , Constance Georgine, Countess Markievicz in the Polish nobility (1868–1927)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Sept 2013 [http://www.oxforddnb.com/view/article/37472, accessed 19 March 2016]</ref>
 
==Bywyd Cynnar==
Cafodd Markievicz ei eni fel Constance Georgine Gore-Booth yn Buckingham Gate, [[Llundain]], yn ferch hynaf i'r anturiaethwr Syr Henry Gore-Booth, 5ed Barwnig a Georgina, Ledi Gore-Booth née Hill ei wraig. Roedd Syr Henry yn landlord Eingl-Wyddelig gydag ystâd 100 km2 (39 milltir sgwar), Lissadell House, ger [[Sligeach]]. Yn ystod [[Newyn Mawr Iwerddon]] 1879-1880, darparodd Syr Henry bwyd rhad ac am ddim ar gyfer tenantiaid ar ei stad.
 
[[File:countessmarkieviczandchildren.jpg|thumb|chwith|Iarlles Markievicz, ei merch a'i llysfab]]
Addysgwyd Constance yn Ysgol Gelf Slade, Llundain<ref name="cawip">{{cite web|url=http://www.qub.ac.uk/cawp/Irish%20bios/TDs_2.htm#markievicz|title=Countess Markievicz (Constance Markievicz)|work=Centre for Advancement of Women in Politics|accessdate=19 Mawrth 2016}}</ref> ac Académie Julian, [[Paris]]. Tra'n fyfyrwraig yn Llundain ymunodd ag Undeb Cenedlaethol y Cymdeithasau Pleidlais i Fenywod (NUWSS). Ym Mharis cyfarfu â'i darpar ŵr, Iarll Casimir Markievicz. (Pwyleg: Kazimierz Dunin-Markiewicz), artist o deulu Pwylaidd cefnog. Roedd yr Iarll yn briod ar y pryd ond bu farw ei wraig y 1899, priododd Constance yn Llundain 29 Medi 1900<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4427230|title=WOMAN MPs ARREST - The Cambria Daily Leader|date=1919-06-14|accessdate=2016-03-19|publisher=Frederick Wicks}}</ref>. Roedd gan yr Iarll mab o'i briodas gyntaf a bu un ferch o'r ail briodas.
 
==Bywyd artistig a llenyddol==
Llinell 20:
==Cyfnod gwleidyddol cynnar==
 
Ym 1908 dechreuodd Markievicz dod yn weithredol yng ngwleidyddiaeth genedlaetholgar Iwerddon. Ymunodd â [[Sinn Féin]] a [[Inghinidhe na hÉireann]] ( 'Merched Iwerddon'), mudiad chwyldroadol i fenywod a sefydlwyd gan yr actores a'r ymgyrchydd Maud Gonne. Perfformiodd gyda Maud Gonne mewn nifer o ddramâu yn yr Abbey Theater a oedd newydd ei sefydlu, sefydliad bu'n chwarae rhan bwysig yn y cynnydd mewn cenedlaetholdeb diwylliannol.
 
Yn ogystal â bod yn weithgar yn y mudiad cenedlaethol parhaodd yr Iarlles gyda'r ymgyrch dros y bleidlais i fenywod. Cyn y [[Rhyfel Byd Cyntaf]], bu'n rhaid i [[Aelod Seneddol]] oedd wedi ei godi i swydd yn y Llywodraeth sefyll isetholiad i weld os oedd ei etholwyr yn fodlon iddo dreulio amser yn y swydd yn hytrach na rhoi ei holl egni i mewn i'w cynrychioli nhw. Roedd [[Winston Churchill]] yn Aelod Seneddol [[Y Blaid Ryddfrydol (DU)|Rhyddfrydol]] etholaeth Gogledd Orllewin Manceinion; ym 1908 cafodd ei benodi yn Llywydd y Bwrdd Masnach a bu'n rhaid iddo sefyll isetholiad i gadarnhau ei benodiad. Gan fod Churchill yn groch yn erbyn caniatáu'r bleidlais i ferched bu'r swffragetiaid yn tarddu ar ei ymgyrch etholiadol. Roedd yr Iarlles Markievicz yn ei ddilyn o amgylch yr etholaeth mewn cerbyd hen ffasiwn ysblennydd yn cael ei dynnu gan bedwar ceffyl.<ref>{{cite web|url=http://hdl.handle.net/10107/4188785|title=Day Before Election - Evening Express|date=1908-04-23|accessdate=2016-03-19|publisher=Walter Alfred Pearce}}</ref> Collodd Churchill ei sedd.
[[File:Walking Wounded (6034850472).jpg|thumb|Aelodau Fianna Éireann yn dysgu sut i drin clwyfau maes y gad]]
Ym 1909 sefydlodd Markievicz Na Fianna Éireann, sefydliad sgowtiaid cenedlaetholgar para milwrol a oedd yn dysgu bechgyn a merched yn eu harddegau sut i ddefnyddio arfau. Dywedodd [[Pádraig Pearse]] bod creu Fianna Éireann cyn bwysiced â chreu'r [[Gwirfoddolwyr Gwyddelig]] ym 1913.<ref>“I Remember The Countess” by Ina Connolly Heron (daughter of James Connolly) – The Irish Press, February 4th 1953 [https://fiannaeireannhistory.files.wordpress.com/2015/11/ina-markievicz-article.jpg] adalwyd 19 Mawrth 2016</ref>
Llinell 37:
Llwyddodd cyd filwyr Markievicz amddiffyn eu safle am chwe diwrnod gan roi'r gorau i'r frwydro ar ôl derbyn copi o orchymyn ildio Pearse. Roedd y swyddog Saesnig a dderbyniodd eu hildiant, Capten Wheeler, yn briod â chyfnither Markievicz.
[[File:(Ireland) Dublin Castle Up Yard.JPG|thumb|300px|Castell Dulyn]]
Cawsant eu gludo i Gastell Dulyn ac yna chafodd Markievicz ei chludo i Garchar Kilmainham. Ymddangosodd o flaen Llys Milwrol ar 4 Mai 1916 plediodd yn ddieuog i gyhuddiad o "''gymryd rhan mewn gwrthryfel arfog ... at y diben o gynorthwyo'r gelyn"'' ond yn euog o fod wedi ceisio "''i achosi anfodlonrwydd ymhlith poblogaeth sifil Ei Mawrhydi",'' fel lliniariad am y drosedd dywedodd wrth y llys, '', "gwnes yr hyn roeddwn i'n meddwl oedd yn gyfiawn ac yr wyf yn sefyll wrth y peth."''. Cafodd ei dedfrydu i farwolaeth ond cafodd y ddedfryd ei gymudo i garchar am oes gan ei bod hi'n fenyw.
 
Cafodd Markievicz ei throsglwyddo i Garchar Mountjoy ac yna i Garchar Aylesbury yn Lloegr ym mis Gorffennaf 1916. Cafodd ei ryddhau o'r carchar ym 1917 o ganlyniad i amnest cyffredinol i'r sawl fu'n rhan o'r gwrthryfel. Tra yn y carchar daeth yr Iarlles, a magwyd yn [[Protestant|Brotestant]], yn aelod o'r [[Eglwys Gatholig]].