Ysbryd Perthynol (cerflun): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
Mae '''Ysbryd Perthynol''' (en: Kindred Spirits) yn gerflun dur awyr agored mawr ym Mharc Bailic yn Midleton, [[Iwerddon]], sy'n cofio haelioni Cenedl Choctaw, cenedl gynhenid Americanaidd, i bobl [[Iwerddon]] ar adeg ''An Gorta Mór''
==
===Y Choctaw===
Mae'r Choctaw yn bobl frodorol Americanaidd, yn wreiddiol o dde ddwyrain [[Unol Daleithiau America]]; [[Mississippi]], [[Florida]], [[Alabama]], a [[Louisiana]] bellach. Ym 1831 gorfodwyd y Choctaw o'u tiroedd cynhenid i'r hyn a elwir bellach yn [[Oklahoma]] ar ymdaith a elwir yn ''Llwybr Dagrau''. Gan newynu, rhewi a salwch ar y daith bu llawer ohonynt farw; o'r 21,000 Choctaw a ddechreuodd y daith, bu mwy na hanner farw o oerfel, diffyg maeth, a chlefyd.
===An Gorta Mór===
Yng ngwanwyn 1845, dechreuodd y malltod tatws yn Iwerddon. Erbyn 1847, roedd llawer o drigolion Iwerddon wedi marw o lwgu. Dim ond tatws ganiataodd awdurdodau Prydain i'r Gwyddelod cadw at eu maeth eu hunain, allforiwyd holl gynnyrch arall y tir i Brydain a'i hymerodraeth. Pan fu'r cnwd tatws methu bu'r Gwyddelod marw. Collodd Iwerddon dros chwarter ei boblogaeth trwy lwgu neu ymfudo.
(Prif erthygl [[Newyn Mawr Iwerddon]])
|