Economi Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Busnes: cyfuno
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{diweddaru}}
Yn draddodiadol seilir '''economi Cymru''' ar ddiwyddiannauddiwydiannau [[mwyngloddio]], [[amaeth]] a [[gweithgynhyrchu]] ond yn ddiweddar mae galwedigaethau mwy modern ac amrywiol, yn enwedig o fewn y [[sector gwasanaethau]], wedi datblygu fel rhan ganolog yr economi Gymreig.
 
Yn gyffredinol gellir dweud bod economi cyfoes Cymru yn adlewyrchu tueddiadau a phatrymau gweddill [[y Deyrnas Unedig]], ond yn wir mae nifer o agweddau arbennig iddo. Mae gan [[Cymru|Gymru]] gyfrannau uwch o weithwyr ym meysydd amaethyddiaeth a choedwigaeth, gweithgynhyrchu, a'r sector gyhoeddus, ac mae ganddi lai o swyddi yng ngwasanaethau [[busnes]] a chyllid, er bod y meysydd hyn yn ffynnu ac yn ganolbwynt gan y llywodraeth ar ddatblygu'r economi.
Llinell 6:
Yn ôl data'r [[Swyddfa Ystadegau Gwladol]], [[gwerth ychwanegol crynswth]] Cymru yn 2006 oedd £42&nbsp;697 miliwn,<ref>{{dyf gwe | url = http://www.statistics.gov.uk/downloads/theme_economy/Regional_GVA_December_2007.pdf | iaith = en | dyddiadcyrchiad = 10 Chwefror | blwyddyncyrchiad = 2008 | cyhoeddwr = [[Swyddfa Ystadegau Gwladol]] | teitl = Ystadegau ar gyfer Gwerth Ychwanegol Crynswth lleol yn y DU | dyddiad = Rhagfyr [[2007]] }}</ref> ac felly economi Cymru yw'r degfed fwyaf o ddeuddeg rhanbarth y Deyrnas Unedig.<ref>Y ddeuddeg rhanbarth a ddefnyddir gan y [[Swyddfa Ystadegau Gwladol]] yw [[yr Alban]], [[Cymru]], [[Gogledd Iwerddon]], [[Gogledd-ddwyrain Lloegr]], [[Gogledd-orllewin Lloegr]], [[Gorllewin Canolbarth Lloegr (rhanbarth)|Gorllewin Canolbarth Lloegr]], [[Dwyrain Canolbarth Lloegr]], [[Dwyrain Lloegr]], [[Swydd Efrog a'r Humber]], [[Llundain Fwyaf|Llundain]], [[De-ddwyrain Lloegr]] a [[De-orllewin Lloegr]]. Maent hefyd yn darparu ystadegau ar gyfer [[Lloegr]] i gyd.</ref>
 
Yn 2006, amcangyfrifodd astudiaeth ar ran [[Llywodraeth Cynulliad Cymru|Llywodraeth y Cynulliad]] bod £2 biliwn – dros hanner o'r arian sy'n cael ei wario gan gyrff gyhoedduscyhoeddus Cymru – yn "gadael" economi'r wlad trwy gael ei wario ar nwyddau a gwasanaethau cwmnïau y tu allan i Gymru. Er hyn bu chwarter o gyflenwadau bwyd a diod cynghorau, ysgolion ac ysbytai yn cael eu prynu oddi wrth gwmnïau Cymreig, sef cynnydd o 6% mewn tair blynedd.<ref>{{dyf gwe | url = http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_5400000/newsid_5404700/5404734.stm | teitl = '£2bn yn gadael economi Cymru' | cyhoeddwr = [[BBC Cymru'r Byd]] | dyddiad = [[4 Hydref]], [[2006]] | dyddiadcyrchiad = 10 Chwefror | blwyddyncyrchiad = 2008 }}</ref>
 
==Hanes economaidd==
Llinell 18:
 
==Busnes==
Mae [[cwmni|cwmnïau]] a [[busnes]]au Cymreig wedi cael eu disgrifio fel "asgwrn cefn economi Cymru".<ref>{{dyf gwe | url = http://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-chamber/bus-chamber-third-assembly-votes.htm?act=dis&id=71717&ds=1/2008 | dyfyniad = "busnesau bach a chanolig eu maint yw asgwrn cefn economi Cymru" | dyddiadcyrchiad = 10 Chwefror | blwyddyncyrchiad = 2008 | teitl = Busnes – Pleidleisiau a Thrafodion | cyhoeddwr = [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] | dyddiad = [[23 Ionawr]], [[2008]] }}</ref><ref>{{dyf gwe | url = http://wales.gov.uk/news/archivepress/enterprisepress/einpress2002/749535/?lang=cy | dyfyniad = Cwmnïau bach yw asgwrn cefn economi Cymru ac maent yn gwneud cyfraniad enfawr i’n cyfoeth a’n llwyddiant. | dyddiadcyrchiad = 10 Chwefror | blwyddyncyrchiad = 2008 | teitl = Grantiau Llywodraeth y Cynulliad yn creu 122 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru | cyhoeddwr = [[Llywodraeth Cynulliad Cymru]] | dyddiad = [[6 Mai]], [[2002]] }}</ref> Mae 99% o'r busnesau yng Nghymru yn Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau), sy'n cyflogi llai na 250 o bobl, ac ya'r mwyafrif ohonynt yn ficro-sefydliadau, hynny yw maent yn cyflogi llai na 10 o weithwyr. Er y nifer fawr o fusnesau bach a chanolig, y prif gyflogwr yng Nghymru yw'r [[sector cyhoeddus]].<ref>{{dyf gwe | url = http://www.gowales.co.uk/cy/graduate/workingInWales/keyIndustryProfiles/index.html | dyddiadcyrchiad = 24 Mai | blwyddyncyrchiad = 2008 | teitl = Proffiliau Diwydiannau Allweddol: Trosolwg Cymru | cyhoeddwr = GO Wales }}</ref>
 
Daw rheoliadau [[perchenogaeth busnes]] yng Nghymru o dan gyfraith [[Cymru a Lloegr]]. Y mathau gwahanol o fusnesau a chwmnïau yw [[Cwmni Rhwymedigaeth Cyfyngedig Cyhoeddus]], [[Cwmni Rhwymedigaeth Cyfyngedig]], [[Partneriaeth CyffredinolGyffredinol]], [[Partneriaeth CyfyngedigGyfyngedig]], [[Unig Fasnachwr]], [[Cydweithrediad]], a [[Partneriaeth Rhwymedigaeth Cyfyngedig|Phartneriaeth Rhwymedigaeth Cyfyngedig]].
 
==Sectorau==
Llinell 34:
===Gwasanaethau a thwristiaeth===
{{prif|Twristiaeth yng Nghymru}}
Mae gwasanaethau ariannol a busnes, y [[sector cyhoeddus]] (yn cynnwys y [[Llywodraeth Cymru|llywodraeth]], [[Addysg yng Nghymru|addysg]], a [[GIG Cymru|gwasanaethau iechyd]]), [[gwesty|gwestai]], [[bwyty|bwytai]], a [[masnach]] yn cyfrif am dros hanner [[CMC]] a bron dau- draean o gyflogaeth yng Nghymru.
 
Ffynhonnell bwysig arall o incwm yw [[twristiaeth]], yn bennaf y [[:Categori:Parciau Cenedlaethol Cymru|parciau cenedlaethol]] a'r arfordir. Mae [[hygyrchedd]] [[Coridor yr M4]] nid yn unig yn denu busnesau i [[de Cymru]] ond yn denu twristiaid hefyd.
Llinell 43:
 
==Eiddo==
Ym mhedwaryddmhedwerydd [[blwyddyn ariannol|chwarter]] 2007 fe ddatganodd banc [[Halifax (banc)|Halifax]] taw £167&nbsp;107 yw'r [[pris]] [[tŷ]] cyfartalog yng Nghymru, o'i gymharu â chyfartaledd y Deyrnas Unedig £197&nbsp;017. Er hyn fe gynyddodd prisoedd tai yng Nghymru gan 0.9% yn y chwarter hwn o'i gymharu â gostyngiad cyfartalog o 0.8% ar gyfer y DU; ond mae cynnydd blynyddol prisoedd yng Nghymru (3.9%) dal yn is na'r DU i gyd (5.2%). [[Caerdydd]] sydd a'r prisoedd tai uchaf yng Nghymru gyda phris cyfartalog o £174&nbsp;375.<ref>{{dyf gwe | iaith = en | url = http://www.hbosplc.com/economy/includes/19_01_08Wales.doc | dyddiadcyrchiad = 13 Ebrill | blwyddyncyrchiad = 2008 | cyhoeddwr = [[Halifax (banc)|Halifax]] | teitl = House Price Index: Wales, Fourth Quarter 2007 | dyddiad = [[19 Ionawr]], [[2008]] }}</ref>
 
==Polisi economaidd==
Mae'r gostyngiad mewn [[CMC]] y pen yng Nghymru (o gymharu â chyfartaledd y DU) ym mlynyddoedd diweddar wedi annog dadl polisi economaidd. Awgryma rhai, megis [[Plaid Cymru]],<ref>{{dyf gwe |url=http://www.plaidcymru.org/content.php?nID=14;ID=109;lID=2 |teitl=Plaid Cymru i fynd a’r frwydr dros drethi i’r Trysorlys |cyhoeddwr=[[Plaid Cymru]] |dyddiad=[[24 Ionawr]], [[2007]] |dyddiadcyrchiad=20 Mehefin |blwyddyncyrchiad=2008 }}</ref> y dylai Gymru efelychu model [[Economi Gweriniaeth Iwerddon|Wyddelig]] y [[Teigr Celtaidd]], yn enwedig ei chyfraddau [[treth gorfforaeth]] isel, er mwyn ysgogi [[buddsoddiad]] a [[twf economaidd|thwf economaidd]]. Ond dadleua economegwyr megis [[Nicholas Crafts]]<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.iwa.org.uk/publications/pdfs/Hodgelecture05.pdf |teitl=Productivity at the Periphery: What can Wales do to compete? |cyhoeddwr=[[Prifysgol Caerdydd]] |awdur=[[Nicholas Crafts]] |dyddiad=[[21 Ebrill]], [[2005]] |dyddiadcyrchiad=20 Mehefin |blwyddyncyrchiad=2008 }}</ref> a [[John Bradley]]<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.fraser.strath.ac.uk/Allander/Allander%20Papers/Bradley.pdf |teitl=Experiences in small European countries and regions: Committing to growth |awdur=[[John Bradley]] |dyddiadcyrchiad=20 Mehefin |blwyddyncyrchiad=2008 }}</ref> taw dim ond o fewn amgylchiadau demograffig a hanesyddol arbennig [[Gweriniaeth Iwerddon]] yn hwyr y [[1980au]] a'r [[1990au]] yr oedd y dreth gorfforaeth isel yn effeithiol, aca bydd mabwysiadu'r fath bolisi mewn cyd-destun economaidd gwahanol iawn nid yn unig yn gofyn am [[annibyniaeth|annibyniaeth wleidyddol]], ond gall fod yn gymharol aneffeithiol ac/neu arwain at ddewisiadau polisi annymunol rhwng [[treth incwm|trethi personol]] uchel a [[gwariant cyhoeddus]] isel.
 
Mewn adroddiad ar gyfer y [[Sefydliad Materion Cymreig]] yn [[2003]], dadleuodd [[Phil Cooke]] taw ymateb [[Llywodraeth Cynulliad Cymru|Llywodraeth y Cynulliad]] i'r gostyngiad o [[cyflogaeth|gyflogaeth]] [[cynhyrchedd|gynhyrchiol]] yng [[gweithgynhyrchu|ngweithgynhyrchu]] oedd i amnewid [[swydd]]i newydd yn y [[sector cyhoeddus]], ac felly gwneud Cymru'n fwyfwy ddibynnol ar [[anghydbwysedd cyllidol|drosglwyddiadau cyllidol]] o'r [[Llywodraeth y Deyrnas Unedig|Neuadd Wen]]. Honnodd Cooke taw ardrefniant [[datganoli]] gymharol wan oedd ar fai am atal y Cynulliad rhag datblygu polisïau economaidd, yn enwedig wrth gymharu â'r [[Llywodraeth yr Alban|Alban]].<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://www.iwa.org.uk/news/press_releases/pr_secterm_chall.htm |teitl=Weak Devolution Settlement Hinders Economic Development |cyhoeddwr=[[Sefydliad Materion Cymreig]] |awdur=[[Phil Cooke]] |dyddiadcyrchiad=20 Mehefin |blwyddyncyrchiad=2008 }}</ref> Ond yn ôl rhai beirniaid, yn cynnwys [[Ron Davies]]<ref>{{dyf gwe |iaith=en |url=http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/3232340.stm |teitl='Weak' assembly harming Wales |cyhoeddwr=[[BBC]] |dyddiad=[[24 Tachwedd]], [[2003]] |dyddiadcyrchiad=20 Mehefin |blwyddyncyrchiad=2008 }}</ref> a [[John Lovering]], [[non sequitur (rhesymeg)|non-sequitur]] yw dadl Cooke (bod angen Cynulliad mwy bweruspwerus er mwyn cael polisïau economaidd mwy effeithiol).
 
==Nodweddion economaidd gymdeithasolcymdeithasol==
===Diweithdra===
[[Delwedd:Cyfraddau diweithdra yng Nghymru.PNG|bawd|330px|Siart bar yn dangos cyfraddau diweithdra yng Nghymru o 1992 i 2002]]
Yn ystod [[Yr Ugeinfed Ganrif yng Nghymru|yr ugeinfed ganrif]] bu dau gyfnod o [[diweithdra|ddiweithdra]] sylweddol yng Nghymru. Yn y 1920au cynyddodd diweithdra ymhlith glowyr o 2% yn Ebrill 1924 i 12.5% yn Ionawr 1925 a 28.5% yn Awst 1925, wrth i alw am lo o dramor gostwng wrth i wledydd eraill cynhyrchu glo eu hunain. Gwaethygodd y sefyllfa yn dilyn [[Cwymp Wall Street]] yn 1929, ac erbyn 1932 roedd diweithdra wedi cyrraedd 42.8% ac wedi treiddio nifer o ddiwydiannau eraill. Yn ystod [[y Dirwasgiad Mawr]] byd-eang Cymru oedd un o'r gwledydd a gafodd ei tharo gwaethaf.<ref>{{dyf gwe | url = http://www.bbc.co.uk/cymru/hanescymru/pennod18/ | cyhoeddwr = [[BBC Cymru'r Byd]] | dyddiadcyrchiad = 1 Mawrth | blwyddyncyrchiad = 2008 | teitl = Hanes Cymru: Y Rhyfel a'r Dirwasgiad }}</ref>
 
Yn ystod prifweinidogaethprif-weinidogaeth [[Margaret Thatcher]] oedd yr ail gyfnod o ddiweithdra eang. Yn ystod y 1970au bu nifer o [[streic]]iau, yn cynnwys gan lowyr, ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig; profodd streic 1972 yn llwyddiannus trwy godi cyflog y glowyr. Ond pan ddaeth [[y Blaid Geidwadol (DU)|y Blaid Geidwadol]] i rym dan Thatcher yn 1979 dechreuwyd polisi o [[preifateiddio|breifateiddio]] diwydiannau. O ganlyniad cafodd nifer o byllau glo, yn enwedig yn y [[Cymoedd De Cymru|Cymoedd]], eu cau; ymunodd glowyr Cymru â [[Streic y Glowyr (1984–1985)|streic genedlaethol]] a pharhaodd am bron i flwyddyn.<ref>{{dyf gwe | url = http://www.llgc.org.uk/ymgyrchu/Llafur/1972/index.htm | dyddiadcyrchiad = 1 Mawrth | blwyddyncyrchiad = 2008 | teitl = Streiciau'r glowyr yn 1972, 1974 a 1984 | cyhoeddwr = Ymgyrchu! }}</ref> Cynyddodd diweithdra yng Nghymru o 65&nbsp;800 (5%) yn 1979 i uchafbwynt o 166&nbsp;700 (13%) yn 1986.<ref>{{dyf gwe | url = http://new.wales.gov.uk/legacy_en/keypubstatisticsforwales/content/publication/economy/2003/sb53-2003/sb53-2003.htm | dyddiadcyrchiad = 1 Mawrth | blwyddyncyrchiad = 2008 | cyhoeddwr = [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru]] a'r [[Swyddfa Ystadegau Gwladol]] | iaith = en | teitl = Bwletin Ystadegol: ''Claimant count trends'' | dyddiad = [[29 Mai]], [[2003]] }}</ref>
 
Rhwng 1999 a 2007 bu cynnydd mewn swyddi o 12.1% yng Nghymru, o'i gymharu â 7.3% yn y Deyrnas Unedig gyfan. Yn 2007 roedd 2.8% o bobl yng Nghymru yn hawlio [[budd-dâldal diweithdra]].<ref name="BBC-gweithio">{{dyf gwe | url = http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6900000/newsid_6907200/6907237.stm | cyhoeddwr = [[BBC Cymru'r Byd]] | teitl = Mwy yn gweithio nag erioed | dyddiad = [[19 Gorffennaf]], [[2007]] | dyddiadcyrchiad = 1 Mawrth | blwyddyncyrchiad = 2008 }}</ref>
 
===Rhaniad Gogledd-De===
{{prif|Rhaniad Gogledd-De yng Nghymru}}
Dywedir bod [[rhaniad Gogledd-De]] yn bodoli yng Nghymru, ac mae iddi agweddau diwylliannol ac economaidd. O ran yr economi, fel y nodir uchod, mae [[ardal drefol|ardaloedd trefol]] y de yn ffyniannus yn economaidd o gymharu ag [[cefn gwlad|ardaloedd gwledig]] a mynyddig y gogledd. YnghŷdYnghyd â ffactorau diwylliannol y rhaniad (e.e. medr y [[Cymraeg|Gymraeg]], [[Cymreictod|hunaniaeth Gymreig]] a [[Cenedlaetholdeb Cymreig|chenedlaetholdeb]] yn uwch yn y gogledd nag yn ardaloedd y de), mae hyn yn broblem gymdeithasol yn y Gymru fodern.
 
===Tlodi===
Llinell 68:
'Traean o blant yn dlawd' | cyhoeddwr = [[BBC Cymru'r Byd]] | dyddiad = [[12 Tachwedd]], [[2003]] | dyddiadcyrchiad = 18 Mawrth | blwyddyncyrchiad = 2008 }}</ref>
 
Rhennir cyfrifoldeb tlodi yng Nghymru rhwng [[Llywodraeth y Deyrnas Unedig]] a Llywodraeth y Cynulliad. Eu bwriad cyfredol yw i haneru tlodi plant erbyn 2010 a'i ddileu'n llwyr erbyn 2020; yn ôl Sefydliad [[Achub y Plant]] yng Nghymru "mae'r niferoedd sy'n byw mewn tlodi dal ymhell o gyrraedd [y targedau hyn]".<ref name="taclo-tlodi-plant"/>
 
==Gweler hefyd==
Llinell 77:
* [[Cynnyrch mewnwladol crynswth]]
* [[Dirwasgiad]]
* [[Dirwasgiad Mawr|DirwasgadDirwasgiad Mawr 1929]]
* [[Diweithdra]]
* [[Economeg]]