Albert Jenkins (Rygbi'r Undeb): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
manion pitw
Llinell 1:
Roedd '''Albert Edward Jenkins''' ([[11 Mawrth]], [[1895]] - [[7 Hydref]], [[1953]]) yn chwaraewr [[Rygbi'r undeb|rygbi]] a fu'n chware i [Clwb Rygbi Llanelli|Glwb Rygbi Llanelli]] (y "Sgarlets") ac yn rhyngwladol dros [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Gymru]] rhwng 1919 a 1928<ref>[http://yba.llgc.org.uk/cy/c4-JENK-EDW-1895.html Y Bywgraffiadur JENKINS, ALBERT EDWARD ( 1895 - 1953 ), adalwyd 22 Mai, 2016]</ref>. Bu Jenkins yn un o'r cefnwyr gorau i chware dros [[Clwb Rygbi Llanelli|Lanelli]] gan gael ei gymharu ag arwyr diweddarach y Sgarlets megis [[Lewis Jones]] a [[Phil Bennett]]<ref>[http://en.espn.co.uk/wales/rugby/story/200497.html ESPN ''In many games he touched greatness''] adalwyd 22 Mai, 2016</ref>. Roedd Jenkins yn daclwr cryf ac yn rhedwr hynod o gyflym o ddechrau stond. Yr oedd hefyd yn giciwr ardderchog gyda'r naill droed a'r llall a gallai ergydio'r bêl dros hanner hyd y cae.
 
==Bywyd Personol==
 
Ganwyd Jenkins yn [[Llanelli]] ym 1895 yn un o 7 o blant William Jenkins, gweithiwr yn y dociau, a Margaret ei wraig <ref>Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911 cyfeirnod RG14/32862 RG78PN1876 RD596 SD3 ED17 SN30; 28 Bryn Road Llanelly</ref>. Bu'n gweithio yn y gwaith [[tun|tunplat]] ac yn y [[Tiger Bay|dociau]]; gwrthododd sawl cais i droi at [[rygbi'r gynghrair]] fel chwaraewr proffesiynol. Ym 1917 Priododd a Annie Sophia Rosser (1895-1945), bu iddynt 4 o blant, ond bu farw un yn ei fabandod.<ref> Bedd y teulu ar 26:00 Munud o ''Yr Wythnos - Albert Jenkins'' [https://www.youtube.com/watch?v=iInlRNviEJE] adalwyd 22 Mai 2016</ref><ref>[http://www.oxforddnb.com/view/article/64566 Gareth Williams, ''Jenkins, Albert Edward (1895–1953)'', Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, Jan 2011] adalwyd 23 Mai, 2016</ref>
 
==Gyrfa Rygbi==
 
Dechreuodd Jenkins i chware rygbi gyda thîm o'r enw ''The Sand Lads'' tua 1909; tîm ieuenctid yn ardal Llanelli a oedd yn chwarae eu gemau ar y traeth ar faes oedd wedi ei farcio gyda llinellau ar y tywod. Ar ddechrau'r [[Y Rhyfel Byd Cyntaf|Rhyfel Byd Cyntaf]] ymunodd Jenkins a Chatrawd y Traed Milwyr Traed Cymreig<ref>[http://www.militarian.com/threads/albert-jenkins-rugby-player.8693/ Albert Jenkins : Rugby Player] adalwyd 22 Mai 2016</ref>, gan chware ar ran tîm ei gatrawd. <ref> 3:10 Munud o ''Yr Wythnos - Albert Jenkins'' [https://www.youtube.com/watch?v=iInlRNviEJE] adalwyd 22 Mai 2016</ref>. Wedi dychwelyd o'r Rhyfel ym 1919 ymunodd a thîm hyn Llanelli, gan ddod yn arwr i'r clwb. Chwaraeodd dros Lanelli yn erbyn [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Seland Newydd|Seland Newydd]] ddwywaith gan golli ym 1924 ond gan eu curo 3-0 ym 1926.
 
===Gyrfa ryngwladol===
 
Bu iCynrychiolodd Jenkins cynrychioli ei wlad ar 14 achlysur, gan ennill ei gap cyntaf yn erbyn Lloegr ar 14, Ionawr 1920. Ei gêm gorauorau oedd yr un yn erbyn yr[[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Iwerddon|Iwerddon]] ym 1920 lle fubu'n gyfrifol am greu tri chyfle i'w cyd gyd-chwaraewr Bryn Williams i sgorio ceisiadau, sgorio cais ei hun, cicio dau drosiad a chicio gôl adlam. Bu'n gapten ar y tîm cenedlaethol ar ddau achlysur.<ref name="Smith467">Smith (1980), pg 467.</ref>
* {{ru|ENG}} 1920, 1923
* {{ru|FRA}} 1920, 1921, 1922, 1923