Cyngor Cymru a'r Gororau: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
|||
Llinell 13:
Parhaodd y Cyngor ar ôl marwolaeth Edward IV a diflaniad ei feibion o [[Tŵr Llundain|Dŵr Llundain]]. O dan deyrnasiad [[Harri VII, brenin Lloegr|Harri VII]], bu'r Cyngor yn gyfrifol am weinyddu'r dywysogaeth ar ei feibion fel Tywysogion olynol Cymru, sef y [[Tywysog Arthur|Dywysog Arthur]] ac yna'r [[Harri VIII, brenin Lloegr|Dywysog Harri (Harri VIII wedyn)]].
Rhwng 1534 a 1543 bu [[Rowland Lee]] Esgob [[Coventry]] a [[Lichfield|Chaerlwytgoed]] yn llywydd y cyngor; credai Lee bod y Cymry yn bobl anwar di gyfraith a bu ei gyfnod fel llywydd yn un o ''deyrnasiad braw'' <ref>John Davies ''Hanes Cymru'', tud 217; Allen Lane 1990 ISBN 10: 0713990112</ref>
Y prif reswm pam bod Lee a'i debyg yn gallu ymddwyn mewn modd mor greulon yn ddigerydd oedd bod y cyngor yn bodoli o dan uchelfraint y brenin heb fod iddi unrhyw reolaeth mewn cyfraith statudol. Newidiwyd hynny gan yr [[Y Deddfau Uno 1536 a 1543|Ail Ddeddf Uno (1543)]] pan roddwyd cyfansoddiad statudol i'r cyngor. O dan y ddeddf cyfansoddwyd y cyngor o'r Llywydd yr islywydd ac ugain o aelodau a enwebwyd gan y brenin; bu'r rhain yn cynnwys rhai o esgobion Cymru a'r Gororau, aelodau o'r teulu brenhinol a gŵyr cyfraith Cymru a'r gororau megis Ynadon [[Llys y Sesiwn Fawr]] a gŵyr a hyfforddwyd yn y gyfraith.
|