Bethesda: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 29:
Yn ôl [[cyfrifiad]] 2001 yr oedd 4,327 o bobl yn byw yng nghymuned Bethesda (sy'n cynnwys pentref [[Rachub]] ac ardal Gerlan), gyda 77.0% ohonynt yn medru'r Gymraeg. Ym 1991 roedd y ffigur hwn yn uwch, gydag oddeutu 80% o'r boblogaeth yn ei medru. Mae'r boblogaeth a'r canran sy'n medru'r Gymraeg wedi dirywio dros y ganrif ddiwethaf - ym 1901, yn ystod adeg y [[Streic Fawr]], roedd tua deng mil o bobl yn byw yn yr ardal, gyda 99% ohonynt yn siarad Cymraeg, sef y ffigur uchaf yng Nghymru ar y pryd.
 
Ffugenw pobl Bethesda yw'r ''How Gets''. Mae hyn yn deillio o'r ystydebystrydeb bod pobl Bethesda â Saesneg gwael, a byddent wastad yn gofyn i deithwyr di-Gymraeg "''How get you here''?". Yn ddiweddarach mae gan ei phobl enw am fod ag acen "ymosodol" a chaletach na gweddill y cyffuniau.
 
Heddiw, mae gan bobl Bethesda ymwybyddiaeth gref am hanes eu pentref, yn enwedig o'r Streic Fawr. Bydd yr enw 'Penrhyn' (yn cyfeirio at deulu Penrhyn) dal yn corddi'r trigolion, a hyd yn oed canrif wedi'r Streic gwrthoda llawer ymweld â hen gartref y teulu hwnnw yng Nghastell Penrhyn.