Ffabl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Math hen iawn o'r traddodiad llafar yw'r '''ffabl'''. Diarhebion ar ffurf straeon ydynt, i'w cofio am gyngor neu rybudd. Fel rheol mae ga...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1:
MathFfurf hen iawn o'rar y [[dameg|ddameg]] yn y [[traddodiad llafar]] yw'r '''ffabl'''. [[Dihareb|Diarhebion]] ar ffurf straeon ydynt, i'w cofio am gyngor neu rybudd. Ei brif nodwedd sy'n gwahanu'r ffabl o ddamhegion eraill yw [[dynweddiant]] (anthropomorffaeth) y cymeriadau.
 
Fel rheol mae gan y ffabl dair rhan: cyflwyniad, sy'n disgrifio'r olygfa a'r sefyllfa; cymhlethdod, o ganlyniad i ddrwgweithred neu gamgymeriadau'r cymeriadau; a datrysiad yn sgil cosb neu haeddiant, gan ffurfio'r [[moeswers|foeswers]]. Gan amlaf mae'r stori yn cynnwys anifeiliaid, planhigion a nodweddion naturiol a chanddynt briodweddau dynol. Maent yn straeon byrion a phwrpasol. Adroddiant cryno heb lawer o ddisgrifiad sydd ganddynt, yn llawn digwydd a sgwrs, efo brawddegau dramatig sy'n cloi'r stori.
 
Mae'n bosib i'r ffabl darddu yn yr hen India, a'i ledu i Bersia a'r Dwyrain Canol, ac yna i Wlad Groeg ac Ewrop. Y Groegwr [[Esop]] yw'r chwedleuwr enwocaf yn nhraddodiad y Gorllewin. Cynhwysir mwy na 250 o ffablau mewn casgliadau o'i waith. Addasid ei chwedlau a'u [[dameg|damhegion]] gan nifer o lenorion, megis [[Oscar Wilde]], [[Leo Tolstoy]], [[Benjamin Franklin]] a [[Jonathan Swift]].
 
== Gweler hefyd ==