Symbolau LHDT: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B categori
Llinell 33:
Mae symbolau trawsryweddol poblogaidd, a ddefnyddir i gynrychioli [[trawswisgo|trawswisgwyr]], [[trawsrywiol]]ion a phobl drawsryweddol eraill, gan amlaf yn cynnwys symbol biolegol addasedig, sy'n tarddu o lun gan Holly Boswell. Yn ogystal â'r saeth sy'n ymestyn o dde brig y cylch sef y symbol biolegol am y gwryw (o'r symbol seryddol am [[Mawrth (planed)|Fawrth]]), ac yn ogystal â'r groes sy'n ymestyn o waelod y cylch sef y symbol biolegol am y fenyw (o'r symbol seryddol am [[Gwener (planed)|Wener]]), mae'r symbol yn cynnwys y ddwy ddyfais hon â chroes gyda phen saeth (sy'n cyfuno'r motiffau gwrywol a benywol) sy'n ymestyn o chwith brig y cylch.
 
[[Delwedd:Transgender Pride flag.svg|bawd|200px|Baner falchder deurywioltrawsryweddol]]
Symbol trawsryweddol arall yw'r faner falchder trawsryweddol a ddyluniwyd gan Monica Helms, a ddangoswyd yn gyntaf mewn parêd balchder yn [[Phoenix, Arizona]], UDA, yn 2000. Mae'n cynnwys pum stribed llorweddol: dau yn las golau, dau'n binc, a stribed gwyn yn y canol. Disgrifiodd Helms ystyr y faner fel y ganlyn: