Fel nifer o gymunedau a mudiadau eraill, mae aelodau'r gymuned lesbiaidd, hoyw, deurywiol, a thrawsryweddol (LHDT) wedi mabwysiadu rhai symbolau i'w huniaethu a'u huno.

Trionglau pinc a du

golygu
 
Defnyddiwyd y triongl pinc yn wreiddiol i ddynodi dynion cyfunrywiol fel bathodyn mewn gwersylloedd crynhoi'r Natsïaid.
 
Defnyddiwyd y triongl du i ddynodi lesbiaid, puteiniaid, menywod a ddefnyddiodd rheolaeth cenhedlu, ac eraill mewn gwersylloedd crynhoi'r Natsïaid.

Un o'r symbolau hynaf yw'r triongl pinc, sydd â'i wreiddiau yn y bathodynnau a orfodwyd i bobl gyfunrywiol wisgo ar eu dillad yn y gwersylloedd crynhoi Natsïaidd. Amcangyfrifwyd i gymaint â 220,000 o hoywon a lesbiaid golli eu bywydau yn ogystal â'r chwe miliwn o Iddewon, Sipsiwn, Comiwnyddion ac eraill a laddwyd gan y Natsïaid yn eu gwersylloedd difa yn ystod yr Ail Ryfel Byd fel rhan o Ateb Terfynol Hitler. Am y rheswm hwn, defnyddir y triongl pinc fel symbol o hunaniaeth ac i gofio'r erchyllterau a ddioddefant hoywon o dan yr erlidwyr Natsïaidd. Mabwysiadodd ACT-UP (AIDS Coalition to Unleash Power) y triongl pinc gwrthdro hefyd i symboleiddio'r frwydr yn erbyn AIDS.

Gorfododd y Natsïaid i fenywod "annymunol", yn cynnwys lesbiaid, wisgo'r triongl du gwrthdro. Mae lesbiaid heddiw wedi adfer y symbol hwn ar gyfer eu hunain fel mae dynion hoyw wedi adfer y triongl pinc.

Lambda

golygu
 
Lambda lafant.

Yn 1970, dewiswyd y llythyren Roeg lambda (λ) i symboleiddio ymgyrch y Gay Activists' Alliance dros ryddhad hoyw ac, pedair mlynedd yn ddiweddarach, gan y Gyngres Hawliau Hoyw Ryngwladol yng Nghaeredin i gynrychioli hawliau i hoywon a lesbiaid. O ganlyniad, daeth y lambda yn fyd-enwog fel symbol LHD. Mae'n draddodiadol i'r lambda cael ei liwio'n lafant, lliw sydd, fel pinc, yn gysylltiedig â chyfunrywioldeb. Yn ffiseg mae'r lambda yn cynrychioli tonfedd, sy'n gysylltiedig ag egni, ac felly defnyddir i symboleiddio egni'r Mudiad Hawliau Hoyw.

Mae'r mudiad Americanaidd dros hawliau hoyw, Lambda Legal, yn defnyddio enw'r symbol hwn.

Baner enfys

golygu
 
Fersiwn cyfredol y faner enfys.

Dyluniodd Gilbert Baker y faner enfys ar gyfer Dathliad Rhyddid Hoyw San Francisco 1978. Nid yw'r faner yn dangos enfys, ond lliwiau'r enfys fel stribedi llorweddol, gyda choch ar y brig a phorffor ar y gwaelod. Mae'n cynrychioli amrywiaeth hoywon a lesbiaid ar draws y byd. Weithiau defnyddir stribed du, i gynrychioli gwrywdod neu falchder lledr, yn lle'r stribed porffor. Mae coch yn sefyll am fywyd, oren am iachâd, melyn am yr haul, gwyrdd am natur, glas am heddwch, a phorffor am enaid. Roedd gan y faner enfys wreiddiol dau stribed ychwanegol, pinc ac acwa, dau liw sy'n dynodi deurywioldeb. Mae'r dau liw hyn yn y Triongl Dwbl Deurywiol ac mae'r pinc yn debyg i'r triongl pinc. Mae'r faner enfys wreiddiol wyth-liw yn chwifio dros The Castro yn San Francisco ac uwchben y Ganolfan Gymunedol Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, a Thrawsrywiol yn Ninas Efrog Newydd.

Trionglau deurywiol

golygu
 
Trionglau gorgyffyrddol (deurywioldeb)

Mae'r symbol hwn yn cynrychioli deurywioldeb a balchder deurywiol. Mae union darddiad y symbol hwn yn ansicr. Y syniad poblogaidd yw bod y triongl pinc yn sefyll am gyfunrywioldeb (gweler uchod), tra bo'r glas yn sefyll am heterorywioldeb. Mae'r ddau gyda'i gilydd yn ffurfio'r lliw lafant, cymysgedd o'r ddau gyfeiriadedd rhywiol a lliw sydd wedi bod yn gysylltiedig â chyfunrywioldeb am bron i ganrif. Mae hefyd yn bosib bod pinc yn cynrychioli atyniad i fenywod, glas yn cynrychioli atyniad i wrywod a lafant yn cynrychioli atyniad i'r ddau.

Baner ddeurywiol

golygu
 
Baner falchder deurywiol

Yn 1988, dyluniodd Michael Page baner falchder deurywiol i gynrychioli'r gymuned ddeurywiol. Mae'n faner betryalog sy'n cynnwys stribed magenta llydan ar y brig, i gynrychioli atyniad i rai o'r un ryw; stribed glas llydan ar y gwaelod, i gynrychioli atyniad i rai o'r rhyw arall; a stribed lafant-tywyll cul yn y canol, sy'n cynrychioli atyniad i'r ddau ryw.

Symbolau trawsryweddol

golygu
 
Symbol trawsryweddol (amrywiolion)
Gweler hefyd: Symbolau rhyweddol.

Mae symbolau trawsryweddol poblogaidd, a ddefnyddir i gynrychioli trawswisgwyr, trawsrywiolion a phobl drawsryweddol eraill, gan amlaf yn cynnwys symbol biolegol addasedig, sy'n tarddu o lun gan Holly Boswell. Yn ogystal â'r saeth sy'n ymestyn o dde brig y cylch sef y symbol biolegol am y gwryw (o'r symbol seryddol am Fawrth), ac yn ogystal â'r groes sy'n ymestyn o waelod y cylch sef y symbol biolegol am y fenyw (o'r symbol seryddol am Wener), mae'r symbol yn cynnwys y ddwy ddyfais hon â chroes gyda phen saeth (sy'n cyfuno'r motiffau gwrywol a benywol) sy'n ymestyn o chwith brig y cylch.

 
Baner falchder trawsryweddol

Symbol trawsryweddol arall yw'r faner falchder trawsryweddol a ddyluniwyd gan Monica Helms, a ddangoswyd yn gyntaf mewn parêd balchder yn Phoenix, Arizona, UDA, yn 2000. Mae'n cynnwys pum stribed llorweddol: dau yn las golau, dau'n binc, a stribed gwyn yn y canol. Disgrifiodd Helms ystyr y faner fel y ganlyn:

"Mae'r glas golau yn lliw traddodiadol ar gyfer bechgyn babanaidd, mae pinc ar gyfer merched, ac mae'r gwyn yn y canol ar gyfer y rhai sy'n trawsnewid, y rhai sy'n teimlo fod ganddynt rywedd niwtral neu ddim rhywedd, a'r rhai sy'n yn rhyngrywiol. Y fath batrwm yw hi fel pa bynnag ffordd caiff ei hedfan, bydd hi pob amser yn gywir. Mae hyn yn symboleiddio ni yn trio darganfod cywirdeb mewn bywydau ein hunain."

Mae symbolau trawsryweddol eraill yn cynnwys y glöyn byw (sy'n symboleiddio trawsffurfiad neu fetamorffosis), a symbol in ac iang pinc/glas golau.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: