Aeschulos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Tudalen newydd: de|thumb|125px|[[Darius, brenin Persia. Ymladdodd Aeschulos yn erbyn ei fyddin ym Marathon.]] Dramodydd Geoegaidd oedd '''Aeschulos''' (Groeg... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 17:18, 4 Hydref 2007
Dramodydd Geoegaidd oedd Aeschulos (Groeg: 525 CC/524 CC - 456 CC). Ef oedd y cyntaf o dri trasiedydd mawr Athen; dilynwyd ef gan Soffocles ac Euripides.
Ganed ef yn 525 neu 524 CC yn Eleusis, tref fechan rhyw 30 km i'r gogledd-orllewin o Athen. Yn 490 CC, ymladdodd Aeschulos a'i frawd Cynegeirus yn erbyn y Persiaid ym Mrwydr Marathon. Lladdwyd Cynegeirus yn y frwydr. Efallai iddo hefyd ymladd ym Mrwydr Salamis ddeng mlynedd yn ddiweddarach, ond nid oes prawf o hyn, er iddo ddisgrifio'r ymladd yn fyw yn ei ddrama Y Persiaid.
Teithiodd Aeschulos i Sicilia unwaith neu ddwy yn y 470au CC, ar wahoddiad Hieron, teyrn Syracuse. Dychwelodd i Sicilia yn 458 CC, a bu farw yno, yn ninas Gela, yn 456 neu 455 BC. Yn ôl un chwedl. fe'i lladdwyd pan gredodd eryr mai carreg oedd ei ben moel, a gollwng crwban arno.
Ar garreg ei fedd, rhoddwyd arysgrif oedd yn coffáu ei wrhydri fel milwr yn hytrach na'i fri fel dramodydd:
Groeg | Cymraeg |
|
|
- ↑ testun o Anthologiae Graecae Appendix, cyf. 3, Epigramma sepulcrale, Tud 17