Frederick Richard West: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Frederick Richard West''' ([[1799]] - [[1 Mai]], [[1862]]) yn [[Aelod Seneddol]] Ceidwadol. Gwasanaethodd fel Aelod Seneddol [[Bwrdeistrefi Dinbych (etholaeth seneddol)|Bwrdeistrefi Dinbych]] rhwng 1826 a 1830 ac eto rhwng 1847 a 1857, bu hefyd yn AS [[East Grinstead]] rhwng 1830 a 1832<ref name=":0">[https://archive.org/stream/cu31924030498939#page/n103/mode/2up Williams, William Retlaw The parliamentary history of the principality of Wales, from the earliesr times to the present day, 1541-1895]</ref>
 
==Bywyd Cynnar==
Llinell 12:
Safodd fel ymgeisydd dros Fwrdeistrefi Dinbych yn etholiad Cyffredinol 1820, gan golli i John Wynn Griffiths.
 
Bu anghydfod rhwng mam West a'i chwiorydd parthed perchenogaeth Castell y Waun wedi marwolaeth Richard Myddleton, cafodd y mater ei setlo gan y llysoedd ym 1819 ond parhaodd y drwgdeimlad rhwng y chwiorydd wedi hynny.<ref name=":1">[http://www.historyofparliamentonline.org/volume/1820-1832/member/west-frederick-1799-1862 WEST, Frederick Richard (1799-1862), of Ruthin Castle, Denb.
Published in The History of Parliament: the House of Commons 1820-1832, ed. D.R. Fisher, 2009]</ref>
 
Cyn yr 20fed ganrif doedd dim diwrnod etholiadau penodedig fel sydd bellach; roedd y Senedd yn cael ei gau a bu cyhoeddiad bod raid i bob etholaeth dewis aelod newydd mewn da bryd i gyrraedd Llundain erbyn cychwyn y senedd nesaf. Mater i Uchel Siryf y Sir oedd penodi diwrnod ar gyfer y bleidlais. Bu etholaethau pell i ffwrdd o [[Senedd y Deyrnas Unedig|San Steffan]], megis rhai'r [[Yr Alban|Alban]] yn cynnal etholiadau cynnar iawn ac etholaethau Llundain yn cynnal etholiadau hwyr. Y tueddiad yng [[Cymru|Nghymru]] oedd cynnal etholiadau yn y cyfnod canolig. Roedd cefnder West, mab chwaer ei fam, [[Robert Myddelton-Biddulph]] ar fin dathlu ei ben blwydd yn 21in oed (sef yr oedran y caniatawyd dynion i sefyll mewn etholiad) ac yn disgwyl i'r etholiad cael ei gynnal ar ôl ei ben-blwydd. Cyhoeddodd Myddelton-Biddulph ei fwriad i sefyll dros y bwrdeistrefi, ond perswadiodd West y Siryf i gynnal etholiad cynnar gan rwystro Myddleton-Biddulph rhag sefyll.<ref name=":1" />
 
Er gwaethaf ei ddichell bu bron i gynllun West fethu. Cefnogodd teulu Myddleton-Biddulph ymgeisydd arall o'r enw Joseph Ablet. Enillodd y ddau ymgeisydd 273 o bleidleisiau'r un. Cyflwynwyd deiseb i'r senedd i geisio pennu'r enillydd ond tynnodd Ablet ei enw yn ôl cyn clywed y ddeiseb, gan roi'r sedd i West.<ref name=":0" />
 
Gan wybod nad oedd triciau dan dîn yn mynd i drechu ei gefnder yr ail dro, penderfynodd West i beidio ag amddiffyn y sedd yn etholiad cyffredinol 1830. Safodd yn etholaeth [[East Grinstead]] yn swydd [[Sussex]], lle'r oedd ei dad yn berchen ar ystâd. Roedd East Grinstead yn etholaeth bwdr, lle fu 32 o etholwyr yn ethol 2 AS. Dilëwyd yr etholaeth yn Neddf Diwygio Fawr 1832, gan adael West heb sedd.
 
Yn y cyfnod yma o'i yrfa seneddol bu West yn hynod wrthwynebus i roi hawliau sifil i [[Yr Eglwys Gatholig|Gatholigion]] ac [[Iddewon]]; safbwynt na fyddai wedi brifo ei obeithion etholiadol ymysg pleidleiswyr [[Eglwys Loegr|Anglicanaidd]] ac [[Anghydffurfiol]] Dinbych. I geisio cryfhau ei afael ar yr etholaeth ceisiodd codi morgeisi i brynu eiddo yn yr etholaeth (mewn cyfnod lle fu tenant, nad oedd yn cefnogi ei landlord, yn cael ei droi allan o'r eiddo). Gwrthododd bancwyr Iddewig Llundain, a phrif fancwyr Gogledd Cymru (teulu Catholig [[Sankey]]) benthyg arian iddo, mewn protest, gan ddryllio ei obeithion.<ref name=":1" />
 
===1847 – 1857===