Siân Wheway: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cerddor, cantores ac arweinydd côr yw '''Siân Wheway''' (ganwyd Mawrth 1960). Cyd-gyfansoddodd cân fuddugol cystadleuaeth Cân i Gymru ym 1983....'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Bu'n gweithio gyda'r BBC ac HTV yng Nghaerdydd mewn amrywiaeth o swyddi fel perfformio, cyfansoddi, sgriptio, ymchwilio a chyflwyno. Symudodd yn ôl i'r Gogledd ym 1990 a chael gwaith fel is-gynhyrchydd rhaglenni adloniant ysgafn yng Nghwmni Teledu'r Tir Glas yng Nghaernarfon. Yn 1994 daeth yn o gyfarwyddwyr cwmni Teledu Gwdihw oedd yn cynhyrchu rhaglenni dogfennol, adloniant ysgafn a cherddoriaeth i S4C a'r BBC yn bennaf. Yn 2000 sefydlodd RYGARUG gyda'i gŵr, cynllun celfyddydau perfformio i bobol ifanc Dyffryn Peris a'r cylch a cynhyrchwyd 4 sioe gerdd yn Theatr Seilo, Theatr Gwynedd a Galeri Caernarfon.
 
Yn yr 1980au bu'n perfformio gyda sawl band, yn cynnwys lleisiau cefndir ar gyfer [[Omega (band)|Omega]], [[Ar Log]] a [[Steve Eaves]]. Roedd hefyd yn chwarae'r allweddellau ac yn canubrif gyda'rleisydd y grŵp [[Pryd ma' Te]].
 
Cystadlodd yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1983, gan gyfansoddi y gân "Popeth Ond Y Gwir" gyda Robin Gwyn, gan ddod i'r brig y flwyddyn honno. Mae hi'n dal i gyfansoddi nifer fawr o ganeuon.