Taipei Tsieineaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '{{Chinese |t = {{linktext|中華|臺北}} neu<br />{{linktext|中華|台北}} |s = {{linktext|中华|台北}} |bpmf = ㄓㄨㄥ ㄏㄨㄚˊㄊㄞˊㄅㄟ...'
 
B →‎top: clean up
Llinell 24:
|tl2 = Tâi-phêⁿ-Kim-bé Kò-piàt Kuan-sùe Líng-hìk
}}
Enw a ddefnyddir gan wlad [[Taiwan]] neu [[Gweriniaeth Tsieina|Weriniaeth Tsieina]] wrth gystadlu mewn nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol yw '''Taipei Tsieineaidd'''. Yng nghyd-destun yr anghydfod rhwng Taiwan a [[Gweriniaeth Pobl Tsieina]] dros statws y wlad, dadl nas torrwyd ers diwedd [[Rhyfel Cartref Tsieina]], cytunodd y ddwy lywodraeth i gydnabod ei gilydd parthed y [[Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol]]. Yn unol â thelerau'r cytundeb cyfaddawdol a elwir yn Ddatrysiad Nagoya (1979), mae'n rhaid i dîm Taiwan defnyddio'r enw Taipei Tsieineaidd ar y lefel ryngwladol; [[Taipei]] yw prifddinas Taiwan. Defnyddir yr enw wrth gymryd rhan yn y [[Gemau Olympaidd]], y [[Gemau Paralympaidd]], [[Gemau Asia]], [[Para-Gemau Asia]], yr [[Universiade]], [[Cwpan y Byd Pêl-droed]], ac ambell digwyddiad a sefydliad arall megis [[Miss Universe]], [[Sefydliad Iechyd y Byd]] (WHO), a'r [[Cronfa Ariannol Ryngwladol|Gronfa Ariannol Ryngwladol]] (IMF). Yn ogystal â'r enw Taipei Tsieineaidd, defnyddir baneri ac anthem amgen.
 
[[Delwedd:Flag of Chinese Taipei for Olympic games.svg|bawd|chwith|Baner Olympaidd Taipei Tsieineaidd, a ddefnyddir yn y Gemau Olympaidd ac hefyd Clasur y Byd Pêl fas.]]