Taipei Tsieineaidd

Enw a ddefnyddir gan wlad Taiwan neu Weriniaeth Tsieina wrth gystadlu mewn nifer o ddigwyddiadau rhyngwladol yw Taipei Tsieineaidd. Yng nghyd-destun yr anghydfod rhwng Taiwan a Gweriniaeth Pobl Tsieina dros statws y wlad, dadl nas torrwyd ers diwedd Rhyfel Cartref Tsieina, cytunodd y ddwy lywodraeth i gydnabod ei gilydd parthed y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol. Yn unol â thelerau'r cytundeb cyfaddawdol a elwir yn Ddatrysiad Nagoya (1979), mae'n rhaid i dîm Taiwan defnyddio'r enw Taipei Tsieineaidd ar y lefel ryngwladol; Taipei yw prifddinas Taiwan. Defnyddir yr enw wrth gymryd rhan yn y Gemau Olympaidd, y Gemau Paralympaidd, Gemau Asia, Para-Gemau Asia, yr Universiade, Cwpan y Byd Pêl-droed, ac ambell digwyddiad a sefydliad arall megis Miss Universe, Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), a'r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF). Yn ogystal â'r enw Taipei Tsieineaidd, defnyddir baneri ac anthem amgen.

Taipei Tsieineaidd
Enghraifft o'r canlynolenw, gwlad mewn chwaraeon, tiriogaeth ddadleuol Edit this on Wikidata
Prif bwnclegal status of Taiwan Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolAPEC, Asian Development Bank, Central American Bank for Economic Integration Edit this on Wikidata
Enw brodorol中華臺北 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Taipei Tsieineaidd
Tsieineeg traddodiadol 中華臺北 neu
中華台北
Tsieineeg syml 中华台北
Tiriogaeth Tollau Ar Wahân
Taiwan, Penghu, Kinmen, a Matsu
Tsieineeg traddodiadol
Tsieineeg syml
Romanization]]| style="width: 50%" | {{{gan4}}}
Baner Olympaidd Taipei Tsieineaidd, a ddefnyddir yn y Gemau Olympaidd ac hefyd Clasur y Byd Pêl fas.

Mae'r ymadrodd yn amwys o fwriad fel ei bod yn dderbyniol ar naill ochr Culfor Taiwan. Er i Taiwan wrthod yr enw i ddechrau, cytunodd ym 1981 a chafodd ei ddefnyddio'n gyntaf yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf 1984.[1] O safbwynt Gweriniaeth Pobl Tsieina, nid yw'r enw yn dynodi statws annibynnol Taiwan nac yn cyfeirio at sofraniaeth y diriogaeth honno, ac felly'n cydymffurfio â pholisi "Un Tsieina" llywodraeth Beijing, sy'n parháu i hawlio'r ynys. Roedd y Kuomintang, plaid lywodraethol Taiwan adeg y cytundeb, yn gweld yr enw yn eang ei ystyr ac yn awgrymu taw un rhan o Tsieina'n unig oedd Taiwan, gan yr oedd y blaid yn ystyried ei hun yn wir lywodraeth holl Tsieina. Croesawodd Beijing y cyfle i atal defnydd yr "enw cenedlaethol" Taiwan yn llygad y byd, ac yr oedd Taipei yn fodlon i beidio â defnyddio'r dewis arall "Taiwan, Tsieina", a ellir ei weld yn disgrifio Taiwan yn rhan o Weriniaeth Pobl Tsieina.[2]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "What's in a name? Anger in Taiwan over 'Chinese Taipei' Olympics moniker", CNN (6 Awst 2016). Adalwyd ar 4 Rhagfyr 2016.
  2. (Saesneg) "How ‘Chinese Taipei’ came about", Taipei Times (5 Awst 2008). Adalwyd ar 4 Rhagfyr 2016.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: