Llyfrgell Alexandria: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Llyfrgell Frednhinol Alexandria neu Lyfrgell Hynafol Alexandria yn Alexandria, yr Aifft, oedd un o lyfrgelloedd mwyaf ei maint a mwyaf arwyddocaol...'
 
Ychwanegu gwybodaeth
Llinell 1:
'''Llyfrgell Frednhinol Alexandria''' neu '''Lyfrgell Hynafol Alexandria''' yn [[Alexandria]], [[yr Aifft]], oedd un o lyfrgelloedd mwyaf ei maint a mwyaf arwyddocaol yr hen fyd. Roedd wedi'i hadeiladu i'r Awenau, naw duwies y celfyddydau. Ffynnodd o dan nawdd y frenhinlin Ptolemaidd a daeth yn brif ganolfan i ddysgeidiaeth o'i hadeiladu yn y 3edd ganrif CC hyd nes i'r [[Rhufeiniaid]] goncro'r Aifft yn 30CC. Yn ogystal â'i chasgliadau o weithiau, roedd ganddi ddarlithfeydd, ystafelloedd cyfarfod a gerddi. Roedd y Llyfrgell yn rhan o sefydliad ymchwil mwy o'r enw [[Musaeum Alexandria]], ble astudiodd nifer o feddylwyr enwocaf yr hen fyd.
 
Cafodd y Llyfrgell ei chreu gan Ptolemy I Soter, cadfridog o [[Macedonia (rhanbarth)|Facedonia]] ac olynydd [[Alecsander Fawr]]. Cadwyd y rhan fwyaf o lyfrau fel sgroliau [[papyrus]]. Ni wyddir i sicrwydd faint o sgroliau oedd yn cael eu cadw yno ar un adeg, ond mae amcangyfrifon yn amrywio o 40,000 i 400,000 pan oedd y Llyfrgell ar ei hanterth.
 
Mae'n debyg mai hyn sy'n gwneud y llyfrgell hon yn adnabyddus yw'r ffaith iddi gael ei llosgi i lawr gan arwain at golli nifer fawr o'r sgroliau a llyfrau; mae ei dinistrio wedi dod yn symbol o golli gwybodaeth ddiwylliannol. Nid oes sicrwydd pryd y cafodd y Llyfrgell ei llosgi na phwy a wnaeth, ac mae'n bosib bod y Llyfrgell wedi wynebu sawl tân dros lawer o flynyddoedd.