Llyn Coety: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: Llyn ym mwrdeisdref sirol Conwy yw '''Llyn Coedty''', weithiau '''Cronfa Coedty'''. Saif yn Nyffryn Conwy uwchben [[Dolgarrog][, tua 900 troedfe...
 
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 1:
[[Llyn]] ym [[Conwy (sir)|mwrdeisdref sirol Conwy]] yw '''Llyn Coedty''', weithiau '''Cronfa Coedty'''. Saif yn [[Dyffryn Conwy|Nyffryn Conwy]] uwchben [[Dolgarrog][, tua 900 troedfedd uwch lefel y môr; mae ganddo arwynebedd o tua 12 acer.
 
Prif ffynhonnell dŵr Llyn Coedty yw [[Afon Porth-llwyd]], sy'n llifo i lawr o [[Llyn Eigiau|Lyn Eigiau]]. O'r llyn mae Afon Porth-llwyd yn llifo dan Bont Newydd yn Nolgarrog cyn llifo i [[Afon Conwy]].
 
Codwyd [[argae]] yma yn [[1924]] fel rhan o gynllun i gyflenwi dŵr i bwerdy trydan [[Dolgarrog]], a oedd yn ei dro yn cyflenwi trydan i'r gwaith [[alcam]] gerllaw. Roedd Llyn Eigiau hefyd yn rhan o'r cynllun yma. Ar [[2 Tachwedd]], [[1925]], ar ôl i 26 modfedd o law disgyn mewn pum diwrnod, torrodd yr argae yn Llyn Eigiau uwchben. Gorlifodd y dŵr yn wyllt i lawr i Lyn Coedty, gan achosi i'r argae yno dorri hefyd, a ffrydiodd miliynau o alwyni o ddŵr i lawr yn ddirybudd ar bentref [[Dolgarrog]], gan ladd 17 o bobl. Codwyd pwerdy newydd yn Nolgarrog yn 1925. Gellir gweld ffim ddu a gwyn fud o'r drychineb trwy glicio [http://www.gtj.org.uk/en/filmitems/29132 yma]. Ail-adeiladwyd yr argae yn [[1926]] ac eto yn [[1956]].