Simon y dewin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
Meddai Simon, "Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi."
|source=— Actau 8:18–24<ref>[http://www.beibl.net/beibl-chwilio?pennod=8&book=BNET%3AActs&viewid=BNET%3AActs.8&newwindow=BOOKREADER&math= Actau 8], beibl.net. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.</ref> }}
Cyflwynir ef i'n sylw gyntaf yn y Beibl fel un yn arfer swyngyfaredd yn un o ddinasoedd [[Samaria]] – Sichar hwyrach – a chyda'r fath lwyddiant fel y dywedwyd amdano, "Mawr allu Duw yw hwn" (Actau 8:10). Cysylltir yr adnod honno â hanesion diweddarach sy'n sôn am ei Feseiandod honedig. Gan fod pregethau a gwyrthiau [[Philip yr Efengylydd]] wedi tynnu ei sylw, daeth yn un o'i ddisgyblion, a bedyddiwyd ef ganddo. Wedi hynny efe a welodd yr effaith a gynhyrchwyd gan arddodiad dwylaw, fel y dilynid ef gan yr apostolion Pedr ac Ioan; a chan ei fod yn awyddus i gael awdurdod tebyg iddo ei hun, efe a gynnigiodd swm o arian amdani. Y mae yn amlwg mai ei amcan oedd cymhwyso yr awdurdod at ei alwedigaeth fel swynwr. Yr oedd ei ddiben a'r moddion yn ddrwg, a cheryddwyd ef yn llym gan Bedr. Clo'r stori gydag apêl Simon i Bedr weddïo drosto, o bosib yn fynegiant o'i edifeirwch neu o rediad yr adnod ei ofn unyn unig.<ref>[https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2550540/2581439/28#?xywh=133%2C777%2C1421%2C1844 Gwersi yr Undeb: Llyfr yr Actau], ''[[Y Lladmerydd]]'' (Tachwedd 1906). Adalwyd ar [[Cylchgronau Cymru Ar-lein|Gylchgronau Cymru Ar-lein]] ar 17 Ebrill 2017.</ref>
 
Y darn byr hwn yn Actau'r Apostolion yw'r unig sôn am Simon y dewin yn y canon Beiblaidd, ond stori bwysig ydyw gan iddi nodi tröedigaeth Samaria yn wlad Gristnogol ac felly cyflawni peth o addewid yr Aglwydd yn adnod Actau 1:8. Yn sgil merthyrdod [[Steffan (sant)|Steffan]] a'r erledigaeth a ddaw, aeth Philip i daenu'r efengyl i'r Samariaid. Tanlinellir y llwyddiant ysgubol hwn gan ddisgrifiad y bobl dan gyfaredd Simon, a throdd hyd yn oed y swynwr ei hun i arweinyddiaeth Philip a'r ffydd Gristnogol.<ref name=NCE>{{eicon en}} "[http://www.encyclopedia.com/religion/encyclopedias-almanacs-transcripts-and-maps/simon-magus Simon Magus]" yn y ''New Catholic Encyclopedia'' (2003). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 15 Ebrill 2017.</ref> Heb os nac oni bai, bwriad Simon wrth geisio prynu'r nerth ysbrydol yw ychwanegu tric arall at ei grefft. Gwnai Pedr yn glir taw nid cast hud a chanddo bris yw'r gallu hwn. Mae ymateb dig yr apostol yn ocheliad yn erbyn llygru'r eglwys drwy bresenoldeb arian, tarddiad y pechod sy'n dwyn ei enw, simoniaeth.