Cymeriad Beiblaidd a geisiodd brynu doniau'r Ysbryd Glân oddi ar yr Apostolion Pedr ac Ioan yw Simon y dewin (Lladin: Simon Magus, o'r Hen Roeg μάγος, a fenthycid yn y bôn o'r Berseg sy'n golygu dewin, swynwr neu astrolegwr). Traddodai ei hanes yn wythfed bennod Actau'r Apostolion yn y Testament Newydd. Ni ymddengys y gair μάγος yn y testun Coine gwreiddiol, ond fe'i elwid yn ddewin neu'n swynwr am iddo arfer swyngyfaredd (μαγεύων). Gwelodd Simon yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl ac yn rhoddi iddynt nerth yr Ysbryd Glân, ac fe anogodd hwy i werthu'r gallu hwn iddo. Câi'r cynnig ei wrthod gan Bedr sy'n rhybuddio Simon rhag pechu drwy geisio prynu rhodd Duw.

Paentiad olew gan Avanzino Nucci o Simon y dewin (mewn gwisg ddu) yn cynnig ei arian i Bedr (1620)

Adnabyddir y cymeriad Beiblaidd â ffigur hanesyddol o'r enw Simon, ocwltydd Samariaidd o bentref Gitta yn byw yn y 1g. Sonir amdano mewn ysgrifau sawl hanesydd Cristnogol cynnar, ac ymddengys hefyd mewn ambell un o Apocryffa'r Testament Newydd. Cydnabuwyd Simon yn sylfaenydd Gnostigiaeth ac yn athro dysgeidiaeth sy'n groes i'r eglwys foreol gan arddel deuoliaeth grefyddol ac iachawdwriaeth drwy wybodaeth gyfrinachol. Athrawiaeth Simon felly yw'r heresi wreiddiol yn ôl y traddodiad Cristnogol.

Mae'r stori Feiblaidd yn ocheliad yn erbyn llygru'r eglwys drwy bresenoldeb arian. Bathai'r gair simoniaeth ar ei ôl i ddisgrifio prynu a gwerthu urddau, swyddi, a dyrchafiadau eglwysig, ac felly mae enw Simon y dewin yn gyfystyr â phechod cysegr-fasnach sydd yn drosedd yn erbyn y gyfraith ganonaidd. Mae Simon yn destun straeon ym mytholeg Gristnogol yr Oesoedd Canol, ac mae'n bosib taw ef yw cynddelw chwedl Faust.

Stori'r Beibl golygu

"Pan welodd Simon fod yr Ysbryd Glân yn dod pan oedd yr apostolion yn gosod eu dwylo ar bobl, cynigodd dalu iddyn nhw am y gallu i wneud yr un peth. "Rhowch y gallu yma i minnau hefyd, er mwyn i bawb fydda i yn gosod fy nwylo arnyn nhw dderbyn yr Ysbryd Glân," meddai.
Ond dyma Pedr yn ei ateb, "Gad i dy arian bydru gyda ti! Rhag dy gywilydd di am feddwl y gelli di brynu rhodd Duw! Does gen ti ddim rhan yn y gwaith – dydy dy berthynas di gyda Duw ddim yn iawn. Tro dy gefn ar y drygioni yma a gweddïa ar yr Arglwydd. Falle y gwnaiff faddau i ti am feddwl y fath beth. Rwyt ti'n ddyn chwerw, ac mae pechod wedi dy ddal di yn ei grafangau."
Meddai Simon, "Gweddïa ar yr Arglwydd drosto i, fel na fydd beth rwyt ti'n ei ddweud yn digwydd i mi."

— Actau 8:18–24[1]

Cyflwynir ef i'n sylw gyntaf yn y Beibl fel un yn arfer swyngyfaredd yn un o ddinasoedd Samaria – Sichar hwyrach – a chyda'r fath lwyddiant fel y dywedwyd amdano, "Mawr allu Duw yw hwn" (Actau 8:10). Cysylltir yr adnod honno â hanesion diweddarach sy'n sôn am ei Feseiandod honedig. Gan fod pregethau a gwyrthiau Philip yr Efengylydd wedi tynnu ei sylw, daeth yn un o'i ddisgyblion, a bedyddiwyd ef ganddo. Wedi hynny efe a welodd yr effaith a gynhyrchwyd gan arddodiad dwylaw, fel y dilynid ef gan yr apostolion Pedr ac Ioan; a chan ei fod yn awyddus i gael awdurdod tebyg iddo ei hun, efe a gynnigiodd swm o arian amdani. Mae yn amlwg mai ei amcan oedd cymhwyso yr awdurdod at ei alwedigaeth fel swynwr. Roedd ei ddiben a'r moddion yn ddrwg, a cheryddwyd ef yn llym gan Bedr. Clo'r stori gydag apêl Simon i Bedr weddïo drosto, o bosib yn fynegiant o'i edifeirwch neu o rediad yr adnod ei ofn yn unig.[2]

Y darn byr hwn yn Actau'r Apostolion yw'r unig sôn am Simon y dewin yn y canon Beiblaidd, ond stori bwysig ydyw gan iddi nodi tröedigaeth Samaria yn wlad Gristnogol ac felly cyflawni peth o addewid yr Aglwydd yn adnod Actau 1:8. Yn sgil merthyrdod Steffan a'r erledigaeth a ddaw, aeth Philip i daenu'r efengyl i'r Samariaid. Tanlinellir y llwyddiant ysgubol hwn gan ddisgrifiad y bobl dan gyfaredd Simon, a throdd hyd yn oed y swynwr ei hun i arweinyddiaeth Philip a'r ffydd Gristnogol.[3] Heb os nac oni bai, bwriad Simon wrth geisio prynu'r nerth ysbrydol yw ychwanegu tric arall at ei grefft. Gwnai Pedr yn glir taw nid cast hud a chanddo bris yw'r gallu hwn. Mae ymateb dig yr apostol yn ocheliad yn erbyn llygru'r eglwys drwy bresenoldeb arian, tarddiad y pechod sy'n dwyn ei enw, simoniaeth.

Straeon yr Apocryffa golygu

Actau Pedr golygu

Dioddefaint Pedr a Paul golygu

Llawysgrif amrywiaethol ar Actau Pedr a Paul yw Dioddefaint Pedr a Paul, briodolir i'r ffug-Marcellus. Ynddi ceir hanes y ddadl o flaen Nero ac ymdrech Simon i brofi ei dduwdod.[3]

Llên y ffug-Glement golygu

Sonir am Simon yn rhamant ddidactig y ffug-Glement, sef testunau'r Adnabyddiaeth Glemennaidd a'r Homilïau Clemennaidd. Prif gymeriadau'r gwaith yw'r Apostol Pedr a'i ddisgybl Clement o Rufain, awdur honedig y gwaith. Ar gais Barnabas, ymdeithiai Clement i'r dwyrain ac yn Caesarea mae'n cyfarfod Pedr ac yn ei ddilyn ar ei genhadaeth. Tystiai Clement i'r sgwrs rhwng yr apostolion a Simon y dewin. Trafodir dysgeidiaeth lled-Drindodaidd yn y llên Glemennaidd: ymddengys Simon, "Nerth Mawr Duw", i'r Iddewon ar ffurf "Mab Duw", i'r Samariaid yn "Dad", ac i'r paganiaid yn "Ysbryd Glân".[4]

Hanesion y Cristnogion cynnar golygu

 
Mosäig yn y Cappella Palatina yn Palermo sy'n darlunio'r saint Pedr a Paul, Simon y dewin, a'r Ymerawdwr Nero.
 
Darluniad o gwymp Simon yn Liber Chronicarum (Cronicl Nuremberg; 1493).

Bywgraffiad cyfochredig golygu

Ganed ef yn Gitton, pentref yn Samaria, ger Nâbulus; ei enw diweddar ydyw Kuryet Jit. Mae yn debygol iddo dderbyn ei addysg yn Alexandria, ac yno daeth yn gydnabyddus ag egwyddorion y Gnosticiaid. Y pryd hwnnw, neu wedi hynny, bu dan addysg Dositheus, yr hwn a'i blaenorodd ef fel athraw Gnosticiaeth yn Samaria, a'r hwn a wthiodd efe allan gyda chymorth Cleobius. Mae cryn anawsterau ynglŷn â hanes Simon, wedi iddo gyfarfod Pedr. Disgrifir ef gan haneswyr eglwysig boreuol fel gelyn ffyrnig i'r apostol Pedr, symudiadau yr hwn a ddilynodd efe i'r diben o'i wrthwynebu – yn yr hyn y methodd yn hollol. Yn ei deithiau dilynid ef gan ferch o'r enw Helena; yr hon oedd wedi bod yn flaenorol yn butain yn Tyrus, ond a ddyrchafwyd yn awr i'r sefyllfa o hysbysydd dwyfol. Cymerodd ei ddadl gyntaf â Phedr le yn Cesarea Stratonis, o ba le y canlynodd yr apostol i Rufain.

Yn ôl ysgrifau Cristnogol y 3g, honnai Simon taw efe oedd y Meseia. O flaen yr Ymerawdwr Nero (54–68), fe heriodd Bedr a datganodd y gallai hedfan. Ceisiodd Simon arddangos ei allu goruwchnaturiol drwy neidio oddi ar Fforwm Rhufain. Mewn atebiad i weddïau Pedr, syrthiodd Simon a dorodd ei forddwyd, ac esgyrn ei ffêr; wedi ei lethu gan ofid, fe gyflawnodd hunanladdiad. Hwn yw un o'r chwedlau mwyaf boblogaidd amdano, a phortreadir cwymp y ffug-Meseia Simon yn aml yng nghelfyddyd Gristnogol.

Dywed i Simon gyfansoddi gwaith o'r enw Mawr Newyddion yn amlinellu ei ddysgeidiaeth Gnostigaidd a chanddi agweddau ymarferol a rhydd-feddwl cryf. Menander oedd un o'i ddisgyblion, Samariad a deithiodd i Antioch a honodd taw ef oedd y Meseia.[5]

Hippolytus golygu

Yn ôl Hippolytus, yr awdurdod boreuaf ar y pwnc, claddwyd Simon yn fyw ar ei gais ei hun, gan gredu yn sicr yr atgyfodai drachefn y trydydd dydd. Methodd i gyflawni'r wyrth hon.

Justin Ferthyr golygu

Dywed Justin Ferthyr yn yr 2g, gyda mwy o gysondeb, fod Simon wedi ymweld â Rhufain yn nheyrnasiad Claudius (41–54); ond nid yw yn gwneud un crybwylliad am ddadl gyda Phedr. Bu mor lwyddiannus yno fel y gwnaed ef yn dduw. Dywed i'r Rhufeinwyr godi cofadail er ei anrhydedd, gyda'r arysgrifen, "I Simon, y Duw sanctaidd", ond mae archaeolegwyr wedi bwrw amheuaeth ar yr olion honedig.

Yn hanes Justin ceir sôn am gymar Simon, caethferch neu butain Roegaidd o'r enw Helena.

Nid ellir cysoni yr adroddiadau uchod ond yn unig trwy gymeryd yn ganiataol fod Simon wedi gwneud dwy daith i Rufain – y gyntaf yn nheyrnasiad Claudius; a'r ail yn yr hon y cymerodd dadl le rhyngddo a Phedr, yn nheyrnasiad Nero, oddeutu y flwyddyn 68: ac y mae hyd yn oed hyn yn cymryd yn ganiataol yr hyn sydd yn anghywir – i Bedr ymweled â Rhufain. Cysylltir ei farwolaeth â'r cyfarfod dan sylw.

Ysgrifenwyr eraill golygu

Mae Irenaeus yn sicr taw'r un dyn yw Simon y dewin yn Actau'r Apostolion a Simon y Gnostig.

Yn ôl Origen, dim ond tua 30 o Simonyddion oedd yn ystod ei oes ef, ond roedd Eusebius yn dal i wybod amdanynt. Nid ydyw Eusebius yn gwneud un crybwylliad am y ddadl gyntaf hon; ond dywed fod Simon wedi cymryd taith i Rufain yn ddioed ar ôl cyfarfod a gofnodir yn yr Ysgrythur; ond y mae yn amlwg fod ei adroddiadau amseriadol yn gymysglyd iawn; canys yn yr un bennod dywed for y cyfarfod rhwng y ddau yn Rhufain wedi digwydd yn nheyrnasiad Claudius – deng mlynedd ar ôl y digwyddiadau yn Samaria.

Rhestrir galluoedd hudol Simon gan ysgrifenwyr eglwysig diweddarach: anweledigrwydd, newid ei ffurf yn berson arall neu'n anifail, diogelwch rhag llosgi, rhoi bywyd i gerfluniau, a symud celfi heb eu cyffwrdd. Dywed iddo ddysgu hudoliaeth oddi ar Dositheos, un o gyfoedion Ioan Fedyddiwr, a drosglwyddodd i'w ddisgybl hefyd gwybodaeth eang o'r ocwlt.[6]

Yr enwad Simonaidd golygu

Addolid Simon ei hun gan y Samariaid ar ôl ei farwolaeth, ac yr oedd ei ganlynwyr yn lluosog, ac yn ymranedig i amryw sectau. Priodolir iddo ddatblygu cyfuniad eclectig o gredoau Stoicaidd a Gnostigaidd, a elwir "y Datganiad Mawr". Ymgododd enwad Gnostigaidd yn yr 2g a welodd Simon yn Dduw (y Tad), ac yn ailymgnawdoliad y duw Groegaidd Zeus, ac ystyrid ei wraig Helena yn Athena yn y cnawd. Yn ôl myth creu'r Simonyddion, o feddwl cysefin y Tad a greai'r angylion, ac hwy a greai'r bydysawd naturiol. O genfigen carcharai'r meddwl cysefin, a elwir Ennoia, mewn corff benywol gan yr angylion i'w chadw rhag y Tad. Bu'n rhaid iddi mynd o gorff i gorff, ac ymddangosai ar ffurf Helena (Helen o Droea). Cymerai'r Tad ffurf ddynol, Simon, a chynigai ei hun yn iachawdwr dwyfol i'r bobl.[7] Yr athrawiaeth iachawdwriaeth sy'n gwahaniaethu'r Simonyddion o Gnostigiaid eraill gan yr oeddant yn credu mewn gwaredigaeth yn y byd hwn ac nid o reidrwydd yn y nefoedd.[4] Ers oes foreuol Cristnogaeth, dylanwadai'r mythau hyn ar swynwyr, sêr-ddewiniaid, ac alcemegwyr oedd yn credu mewn traddodiad llafar cyfrinachol – a darddai o geg Iesu – sy'n bwysicach wrth gysylltu â Duw nac ysgrythur ac epistolau yr uniongred. Parheir i sylw meddylwyr cyfriniol ac esoteraidd yr oes fodern gael ei dynnu gan straeon Simon, y Gnostig cyntaf.[8]

Chwedlau'r Oesoedd Canol golygu

Roedd straeon Simon yn ddylanwadol yn natblygiad thema'r "fargen â'r Diafol", motiff poblogaidd ym mytholeg yr Oesoedd Canol.[9] Chwedl Faust yw traethiad enwoca'r stori hon. Bywyd Johann Faust yw'r cnewyllyn o wirionedd yn y chwedl ond cafodd ei llinyn a'i hagweddau eu siapio gan hanes Simon yn yr Actau, yn ogystal â straeon apocryffaidd am Cyprian o Antioch, Theophilius o Adana, a'r Pab Sylvester II a dewiniaid eraill yn llên lysaidd Ewrop megis Myrddin a Klingsor.[10]

Portreadau a dylanwad diwylliannol golygu

Simon yw un o'r cymeriadau yn y nofel hanesyddol The Silver Chalice (1952) gan Thomas B. Costain, a chafodd ei bortreadu gan Jack Palance yn yr addasiad ffilm (1954).

Cyfeiriadau golygu

  1. Actau 8, beibl.net. Adalwyd ar 8 Mawrth 2017.
  2. Gwersi yr Undeb: Llyfr yr Actau, Y Lladmerydd (Tachwedd 1906). Adalwyd ar Gylchgronau Cymru Ar-lein ar 17 Ebrill 2017.
  3. 3.0 3.1 (Saesneg) "Simon Magus" yn y New Catholic Encyclopedia (2003). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 15 Ebrill 2017.
  4. 4.0 4.1 (Saesneg) Simon Magus. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Ebrill 2017.
  5. (Saesneg) "Gnosticism" yn y New Catholic Encyclopedia (2003). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 16 Ebrill 2017.
  6. (Saesneg) "Simon Magus" yn Encyclopedia of Occultism and Parapsychology (2001). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 17 Ebrill 2017.
  7. (Saesneg) "Simon Magus" yn yr Encyclopedia of Philosophy (2006). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 16 Ebrill 2017.
  8. (Saesneg) "Magi" yn y Gale Encyclopedia of the Unusual and Unexplained (2003). Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 16 Ebrill 2017.
  9. Beatrice Daw Brown. "Marlowe, Faustus, and Simon Magus." PMLA 54, rhif 1 (1939): 82-121. doi:10.2307/458629.
  10. Philip Mason Palmer a Robert Pattison More. The Sources of the Faust Tradition: From Simon Magus to Lessing (1936).
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.