Ysgol Friars, Bangor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B iaith |
|||
Llinell 6:
===Sefydliad 1557===
Sefydlwyd yr ysgol gan Geoffrey Glyn, doethur yn y [[cyfraith|gyfraith]] oedd wedi ei ddwyn i fyny yn [[Ynys Môn]], ac ar ôl addysg dda, wedi dilyn gyrfa llwyddiannus yn y gyfraith yn [[Llundain]].
[[Delwedd:Friars-speed1610.jpg|bawd|dde|200px|Darlun o'r ysgol
Roedd tŷ y [[Brodyr Duon]] wedi bodoli ym Mangor ers y [[13eg ganrif]], yn dilyn athrawiaeth [[Dominic]], ond yn oes [[Diddymu'r mynachlogydd|diddymu’r mynachlogydd]], daeth ei gyfnod i ben ym [[1538]]. Roedd Geoffrey Glyn wedi prynu’r safle gyda’r bwriad o sefydlu ysgol ramadeg yno. Yn ei ewyllys dyddiedig [[8 Gorffennaf]] [[1557]], gadawodd yr eiddo ynghyd ag eiddo cystlltiedig oedd i ffurfio cronfa gwaddol i gynnal yr ysgol, er mwyn sefydlu’r ysgol. Gadawodd yr eiddo hwn i'w frawd, [[William Glyn]], [[Esgob Bangor]] ar y pryd,
Er bod yr ysgol wedi bod yn cyfarfod yn y ddinas cyn hyn, crëwyd yr ysgol yn swyddogol pan dderbyniodd breinlythyr gan [[Elisabeth I o Loegr|Elisabeth I]] ym [[1561]]. Yn ffurfiol, enw’r ysgol oedd ''The free grammar school of Geoffrey Glyn, Doctor of Laws'', ond oherwydd y cysylltiad agos ac amlwg gyda thŷ’r Brodyr, fe’i adwaenwyd yn gyffredin fel ysgol "Friars". Roedd y breinlythyr yn sefydlu Deon a Chabidwl [[Eglwys Gadeiriol Bangor]] fel corfforaeth i lywodraethu’r ysgol. Ym [[1568]], mabwysiadwyd ystadudau’r ysgol, yn seiliedig ar ystatudau ysgol Bury St. Edmunds yn [[Suffolk]].
Sefydlwyd yr ysgol i roi addysg ramadeg i fechgyn y tlodion. Yn yr oes hwn, addysg yn y clasuron, [[Lladin]] a [[Groeg (iaith)|Groeg]], yn unig a roddwyd. Ac mae’n debygol mai nid y tlodion go iawn fuasai wedi elwa o’r fath addysg,
Cynhaliwyd yr ysgol gan yr incwm o’r gwaddol a adawyd gen Geoffrey Glyn a chymwynaswyr eraill, sef rhenti ar dir yn [[Southwark]], [[Llundain]] a [[Croesoswallt|Chroesoswallt]] yn bennaf. Parhaodd yr ysgol yn hen gartref y Brodyr Duon ar lannau’r [[Afon Adda]] am dros ddau ganrif.
Llinell 18:
[[Delwedd:Friars-barber&lewis1789.jpg|bawd|dde|200px|Adeilad Ysgol Friars o 1789 i 1900]]
Dan nawdd John Warren, Esgob Bangor –
Yn y cyfnod hwn, datblygodd y cwricwlwm i gynnwys mathemateg, ysgrifennu a rhai pynciau eraill fwy cyfarwydd i ddisgyblion heddiw.
Bu llanw a thrai yn hanes yr ysgol yn y cyfnodau’n dilyn. Ffynnodd yn fuan wedi’r symud safle. Dan brifathrawiaeth Totton yng nghanol y [[19eg ganrif]], dirywiodd enw’r ysgol a cholli disgyblion nes gorfod cau
Yn y cyfnod hwn, hefyd, daeth Deddf Addysg Ganolradd Gymreig i rym,
===Y drydedd adeilad, 1900===
Llinell 33:
Gyda chyfraniadau gan Gyngor Sir Gaernarfon, gwerthiant yr hen safle yng ngwaelod y ddinas ac apêl cyhoeddus am gyfraniadau, adeiladwyd ysgol newydd ar safle Ffriddoedd am gost o £11,600. Dyluniwyd yr adeilad gan benseiri Douglas & Minishull, ac fei’i adeiladwyd o [[calchfaen|galchfaen]] a [[tywodfaen|thywodfaen]] gan Mri. James Hamilton a’i Fab. Gosodwyd y seiliau gan [[Esgob Bangor]] ar [[12 Ebrill]] [[1899]] ac fe agorwyd yr adeilad newydd ym mis Rhagfyr [[1900]].
Wrth symud at Ffriddoedd, y bwriad oedd symud at ardal wledig allan o’r ddinas. Wedi’r haint teiffoid a’r pryder yn gyffredinol am gyflwr afiach dyffryn Adda, roedd ardal Friddoedd yn cael ei weld fel
Ym [[1957]] trefnwyd sawl achlysur i gofnodi ac i ddathlu pedwar canmlwyddiant yr ysgol. Gosodwyd ffenestri gwydr lliw yn yr adeilad i gofnodi’r achlysur.
Llinell 41:
Hyd at [[1971]], ysgol ramadeg i fechgyn yn unig fuodd Ysgol Friars. Fel ysgol ramadeg, roedd rhaid pasio’r arholiad ''11+'' cyn cael mynediad i’r ysgol ac roedd hynny’n cyfyngu’r mynediad i’r mwyaf academaidd.
Ond ym [[1971]], cafwyd ail-drefnu sylweddol, pryd y daeth tair ysgol uwchradd at ei gilydd - Ysgol Friars, Ysgol Sirol y Genethod (sef ysgol ramadeg arall), ac ysgol Deiniol (ysgol eilradd fodern
Cafwyd ail-drefnu pellach ym [[1978]]. Gwahanwyd y ffrwd iaith Gymraeg i ffurfio ysgol 11-18 newydd, [[Ysgol Tryfan]], ar safle Tryfan. Daeth ysgol Friars i fod yn ysgol cyfrwng Saesneg yn bennaf ar ddwy safle, Ffriddoedd ac Eithinog.
Llinell 51:
===Dathlu 450 mlynedd===
Cynhaliwyd Gwasanaeth o Ddiolchgarwch a Choffadwraieth yn [[Eglwys Gadeiriol Bangor]] yn Ebrill [[2007]] i gofnodi 450 mlynedd o Ysgol Friars. [http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_6570000/newsid_6575300/6575369.stm]
==Yr ysgol fodern==
Llinell 61:
==Olion a chreiriau==
Mae olion yr hen safloedd i’w gweld yng ngwaelod y ddinas mewn enwau strydoedd: Rhodfa Friars, Ffordd Glynne, ac adeiladau: Teras Friars,
Mae’r breinlythyr a roddwyd gan [[Elisabeth I o Loegr|Elisabeth I]] i’w gweld yn [[Eglwys Gadeiriol Bangor]].
Llinell 73:
Lliwiau’r ysgol yw du a melyn, y du yn adlewyrchu gwisg y brodyr duon.
Yr arwyddair gyda’r arfbais yn [[Lladin]] yw ''Foedere Fraterno''- “Ymlaen â’r brodyr” – gan gyfeirio unwaith eto at y brodyr duon.
Mae’r symbolau hyn, a welwyd ar un adeg
==Cyn-ddisgyblion Nodedig==
|