Llanddewi Nant Hodni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cyswllt wici
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Llinell 3:
Pentref bychan gwledig yn [[Sir Fynwy]] yw '''Llanddewi Nant Hodni''' neu '''Llanddewi Nant Honddu''' (weithiau: '''Llanhonddu''' neu '''Llanhodni'''; [[Saesneg]]: ''Llanthony''; weithiau '''Llantoni'''). Fe'i lleolir 10 milltir i'r gogledd o'r [[Y Fenni|Fenni]] yng ngogledd-orllewin Sir Fynwy ar ffordd fynydd sy'n arwain i [[Capel-y-ffin|Gapel-y-ffin]] a'r [[Gelli Gandryll]]. Saif ar lan [[Afon Honddu]] (mae enw'r pentref yn cadw'r hen ffurf ar y gair 'Honddu', sef 'Hodni').
 
Saif y pentref hanner ffordd i fyny cwm anghysbell [[Dyffryn Euas]], ar ymyl ddwyreiniol y [[Mynydd Du (Mynwy)|Mynydd Du]] a [[Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog]]. Mae'r tirlun o gwmpas yn drawiadol am ei unigrwydd.
 
Yn ymyl y pentref ceir adfeilion [[Priordy Llanddewi Nant Hodni]], a sefydlwyd gan yr arglwydd [[Normaniaid|Normanaidd]] [[William de Lacy]] ar droad yr [[12fed ganrif]]. Ond cyn hynny roedd y safle eisoes yn adnabyddus fel [[clas]] Cymreig Llanddewi Nant Hodni. Ymwelodd [[Gerallt Gymro]] â'r [[priordy]] newydd yn [[1188]] ac mae'n dweud mai dau feudwy Cymreig a sefydlodd yr hen glas. 'Llanantoni', a droes yn 'Llantoni' dros y blynyddoedd, oedd enw'r sefydliad [[Awstiniaid|Awstinaidd]] newydd, sy'n rhoi i'r pentref ei enw Saesneg heddiw (''Llanthony'').