Cymraeg ysgrifenedig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎Hanes safoni Cymraeg ysgrifenedig: Ychwanegu infobox person/wikidata, replaced: unfed ganrif ar bymtheg → 16g, bymthegfed ganrif → 15g, bedwaredd ganrif ar ddeg → 14g using AWB
BDim crynodeb golygu
Llinell 21:
Mae'r Gymraeg wrthi'n ehangu ei defnydd i feysydd newydd mewn addysg, busnes, gweinyddiaeth, llywodraeth a'r cyfryngau ac yn ehangu geirfa ar gyfer syniadau a phethau newydd sy'n ymddangos o hyd ac o hyd. Rhaid wrth fathu termau Cymraeg newydd a hynny ar garlam. Weithiau bathir term newydd ar draul gair hŷn nas arferir heddiw am fod y diwydiannau lle y'u defnyddid wedi darfod neu wedi Seisnigeiddio; e.e. '''sbring fflat''' heddiw yn hytrach na '''twythell''' a arferid gynt. Wrth fathu termau ceir amrywiol dermau neu sillafiadau gan wahanol gyfieithwyr neu mewn gwahanol ardaloedd am yr un peth, e.e. cyfieithir ''Financial Reporting Standard for Small Entities'' fel ''Safon Adroddiadau Ariannol ar gyfer Endidau Bach'' gan Dŷ'r Cwmnïau ac fel ''Safon Adrodd Ariannol ar gyfer Endidau Llai'' gan y Comisiwn Elusennau. Mae rhywfaint o safoni yn digwydd wrth i eiriaduron newydd ymddangos yn y meysydd newydd yma; e.e. geiriaduron termau tebyg i ''Eiriadur Termau Iechyd yr Henoed''. Wedi dweud hynny nid yw'r geiriaduron yn cytuno yn aml ar sillafiad neu derm Cymraeg, e.e. '''côd''' yng ''Ngeiriadur yr Academi'' a'r ''Geiriadur Termau'' a '''cod''' yng ''Ngeiriadur Prifysgol Cymru'' a'r ''Termiadur'' am y gair Saesneg '''code'''.
 
Ers diwedd y 19eg ganrif gwneir gwaith safoni a datblygu'r Gymraeg gan bwyllgorau academaidd wedi eu hysgogi neu eu creu gan [[Prifysgol Cymru|Brifysgol Cymru]] a'r [[Eisteddfod Genedlaethol]]. Canolfan Bedwyr yng [[Prifysgol Cymru, Bangor|Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor]] yw'r adran academaidd fwyaf amlwg ym maes safoni a datblygu'r Gymraeg erbyn heddiw. Ysgogir a threfnir gwaith ar y cyd i ddatblygu Cymraeg safonol gan [[Bwrdd yr Iaith Gymraeg|Fwrdd yr Iaith Gymraeg]] a defnyddwyr Cymraeg eraill megis Cydbwyllgor Addysg Cymru. Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, a ffurfiwyd yn 1976, yn trefnu gwaith ar y cyd rhwng ei haelodau. Cynhelir bwrlwm o waith bathu termau anffurfiol gan sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys cyflwynwyr a gwrandawyr [[radio]]. Nid oes gan [[Cymru|Gymru]] sefydliad ieithyddol wedi ei awdurdodi gan y llywodraeth fel yr [[Académie Françaisefrançaise]] yn [[Ffrainc]]. Nid yw llywodraeth [[Prydain]] na'r [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Cynulliad Cymreig]] ychwaith wedi deddfu ynglŷn ag unrhyw agwedd ar safon yr iaith Gymraeg fel ag a wnaethpwyd droeon yn yr Almaen ynglŷn ag orgraff yr [[Almaeneg]].
 
==Cymraeg llafar ar bapur==