Cymraeg ysgrifenedig

Aethpwyd ati i ysgrifennu Cymraeg yn gynnar o’i chymharu ag ieithoedd eraill canolbarth a gogledd Ewrop (heblaw am Ladin), efallai cyn gynhared ag OC 600, er nad oes ysgrifau wedi goroesi o’r adeg honno. Ar garreg yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn y ceir y geiriau Cymraeg cynharaf i oroesi, carreg a naddwyd tua’r flwyddyn OC 700.[1]

Cymraeg
Baner Cymru
Baner Cymru
Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres ar
y Gymraeg
Y blwch hwn: gweld  sgwrs  golygu


Arysgrif Hen Gymraeg ar faen yn Eglwys Sant Cadfan, Tywyn, tua 700

Hanes safoni Cymraeg ysgrifenedig golygu

Dechreuwyd ar safoni’r iaith ysgrifenedig gan y beirdd.[2] Roedd y rhain yn teithio o lys i lys trwy ardaloedd â thafodieithoedd amrywiol ynddynt ac yn cwrdd â’i gilydd mewn eisteddfodau. Ceisient ddefnyddio geiriau cyffredin i’r holl dafodieithoedd fel bod eu gwaith yn ddealladwy gan bawb. Erbyn adeg beirdd yr Oesoedd Canol gellir dweud bod gan y Gymraeg iaith lenyddol safonol o ran geirfa.

Ond nid oedd unrhyw gysondeb yn sillafiad y geiriau; e.e. dynodai d y seiniau sydd heddiw yn cael eu sillafu yn d ac yn dd. Ar gyfer y sain a sillefir heddiw yn f defnyddid f ar ddiwedd gair, u neu v ar ei ddechrau ac u, v, fu, fv, neu f yn ei ganol. Yn ystod y 14g yr oedd y gynghanedd gaeth wedi llawn ddatblygu ac yn gofyn am gyfatebiaeth seiniau. Roedd hyn yn sbardun i sefydlu iaith farddol safonol a’r symbolau am y seiniau yn fwy diamwys erbyn y 15g. Yn wir, roedd orgraff y Gymraeg y pryd hynny yn fwy unffurf nac aml i iaith arall yn Ewrop.

Yn ystod yr 16g ceisiodd gramadegwyr ddyfeisio cyfundrefn lythrennau boddhaol.[3] Roedd William Salesbury wedi mynnu dyfeisio orgraff ei hunan a oedd i fod i ddangos tarddiad gair a'i gysylltiad â'r Lladin yn hytrach na dangos ynganiad y gair. Roedd wedi defnyddio'r orgraff hon yn ei gyfieithiad o'r Testament Newydd a gyhoeddwyd yn 1567. Ond ni phrofodd y cyfieithiad yn un poblogaidd yn bennaf gan fod yr orgraff yn ei gwneud yn anodd darllen y Beibl yn gyhoeddus.

Gwahanol iawn oedd Beibl y Dr William Morgan a gyhoeddwyd yn 1588 er mai Testament Newydd a Llyfr Gweddi 1567 Salesbury a'i gydweithwyr oedd sail cyfieithiad William Morgan yntau o'r Testament Newydd a'r Salmau. Defnyddiodd ef orgraff yn seiliedig ar orgraff lenyddol draddodiadol y canu caeth, oedd yn cyfleu ynganiad gair. Ond sillafai rai geiriau yn ôl arfer canu gwerin ac iaith lafar gyfoes. Cyhoeddwyd diwygiad i’r Beibl hwn yn 1620 a ddilynai’r un patrwm llythrennu ond a ddefnyddiai eiriau llenyddol yn hytrach na geiriau tafodieithol Beibl Dr Morgan.

Bu’r Beibl yn safon orgraff y Gymraeg tan y bu i Dr W Owen Pughe gyhoeddi geiriadur mawr, a gwblhawyd ym 1803, lle y newidiwyd llythreniad llu o eiriau yn ôl cyfundrefn a ddyfeisiodd ei hunan. Codwyd nyth cacwn ymhlith y gramadegwyr, wrth i eraill fynd ati i ddiwygio’r orgraff a rhai yn cymysgu’r hen a’r newydd. Cyn pen fawr o dro roedd orgraff wahanol gan ymron i bawb yn enwedig ar y mater o ddyblu cytseiniaid. Cyhoeddwyd nifer o bapurau ac erthyglau ar y pwnc yn ystod y 19eg ganrif, a ffurfiwyd pwyllgor i ystyried y mater yn Eisteddfod Bangor 1890. Penderfynodd y Pwyllgor mai’r hen gyfundrefn sillafu, yn ôl sain y gair yn hytrach na’i tharddiad, oedd y gyfundrefn orau. Y prif wahaniaeth rhwng adroddiad y Pwyllgor a gyhoeddwyd ym 1893 â Beibl 1620 oedd bod niferoedd o gytseiniaid dwbl y Beibl wedi eu dileu, gan adael dim ond n ac r i'w dyblu o gwbl, yn ôl nifer o reolau. O dipyn i beth fe fabwysiadwyd cyfundrefn yr Adroddiad hwn, a'r Adroddiad hwn oedd sail y gwaith safonol Orgraff yr Iaith Gymraeg a baratowyd gan Bwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru yn 1928.

Mae orgraff y Gymraeg yn dal i fod yn bwnc llosg hyd heddiw. Ers cyhoeddi Orgraff Yr Iaith Gymraeg mae nifer o faterion eraill wedi dod i'r amlwg gan gynnwys mater sillafu geiriau o darddiad tramor. Gwelir enghreifftiau da o'r amrywiadau sillafu mewn enwau gwledydd. Yng Ngeiriadur yr Academi cynigir Panama neu Panamâ yn sillafiadau amgen ar un wlad. Mae gwahanol weithiau yn dilyn gwahanol egwyddorion wrth drin enwau gwledydd. Mae Geiriadur yr Academi, a'r Wicipedia Cymraeg, yn trawslythrennu sain enw'r wlad i'r wyddor Gymraeg, e.e. Cenia. Mae'r Atlas Gymraeg yn dewis defnyddio sillafiad swyddogol gwlad yn eu hiaith eu hunain os nad oes eisoes ffurf Gymraeg cyfarwydd i'r enw, e.e. Cenia.

Gweler hefyd: Rhestr gramadegau Cymraeg (hyd 1900)

Datblygiadau diweddar golygu

Mae'r Gymraeg wrthi'n ehangu ei defnydd i feysydd newydd mewn addysg, busnes, gweinyddiaeth, llywodraeth a'r cyfryngau ac yn ehangu geirfa ar gyfer syniadau a phethau newydd sy'n ymddangos o hyd ac o hyd. Rhaid wrth fathu termau Cymraeg newydd a hynny ar garlam. Weithiau bathir term newydd ar draul gair hŷn nas arferir heddiw am fod y diwydiannau lle y'u defnyddid wedi darfod neu wedi Seisnigeiddio; e.e. sbring fflat heddiw yn hytrach na twythell a arferid gynt. Wrth fathu termau ceir amrywiol dermau neu sillafiadau gan wahanol gyfieithwyr neu mewn gwahanol ardaloedd am yr un peth, e.e. cyfieithir Financial Reporting Standard for Small Entities fel Safon Adroddiadau Ariannol ar gyfer Endidau Bach gan Dŷ'r Cwmnïau ac fel Safon Adrodd Ariannol ar gyfer Endidau Llai gan y Comisiwn Elusennau. Mae rhywfaint o safoni yn digwydd wrth i eiriaduron newydd ymddangos yn y meysydd newydd yma; e.e. geiriaduron termau tebyg i Eiriadur Termau Iechyd yr Henoed. Wedi dweud hynny nid yw'r geiriaduron yn cytuno yn aml ar sillafiad neu derm Cymraeg, e.e. côd yng Ngeiriadur yr Academi a'r Geiriadur Termau a cod yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru a'r Termiadur am y gair Saesneg code.

Ers diwedd y 19eg ganrif gwneir gwaith safoni a datblygu'r Gymraeg gan bwyllgorau academaidd wedi eu hysgogi neu eu creu gan Brifysgol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol. Canolfan Bedwyr yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor yw'r adran academaidd fwyaf amlwg ym maes safoni a datblygu'r Gymraeg erbyn heddiw. Ysgogir a threfnir gwaith ar y cyd i ddatblygu Cymraeg safonol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg a defnyddwyr Cymraeg eraill megis Cydbwyllgor Addysg Cymru. Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, a ffurfiwyd yn 1976, yn trefnu gwaith ar y cyd rhwng ei haelodau. Cynhelir bwrlwm o waith bathu termau anffurfiol gan sefydliadau yng Nghymru, gan gynnwys cyflwynwyr a gwrandawyr radio. Nid oes gan Gymru sefydliad ieithyddol wedi ei awdurdodi gan y llywodraeth fel yr Académie française yn Ffrainc. Nid yw llywodraeth Prydain na'r Cynulliad Cymreig ychwaith wedi deddfu ynglŷn ag unrhyw agwedd ar safon yr iaith Gymraeg fel ag a wnaethpwyd droeon yn yr Almaen ynglŷn ag orgraff yr Almaeneg.

Cymraeg llafar ar bapur golygu

Mae rhai pobl weithiau yn ysgrifennu'r Gymraeg llafar neu dafodiaith ar bapur, e.e. i gyfleu sgwrs mewn nofel a drama neu mewn llythyr personol. O wneud hyn fe newidir y llafariaid a rhai cytseiniaid yn ôl y dafodiaith. Fe gaiff llythrennau eu newid neu eu hepgor, defnyddir ffurfiau hir y ferf a chystrawen lafar ac ymadroddion a geirfa dafodieithol. Gellir ysgrifennu yn fwy neu'n llai tafodieithol ond o ddechrau ysgrifennu'r iaith lafar ni ellir hepgor gwneud dewisiadau tafodieithol gan fod y llafariaid a ddewisir yn rhwym o fod yn wahanol mewn gwahanol ardaloedd. Rhaid dewis e.e. rhwng nawr/rŵan ac o'n/we’n/oeddan/oe'n. I'r rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r dafodiaith honno fe all deall ysgrif ar ffurf lafar neu dafodieithol fod yn anodd. Mae hyn yn cyfyngu ar ba mor ddefnyddiol yw ysgrifennu'r iaith lafar fel ei hyngenir. Enghraifft adnabyddus o farddoniaeth dafodieithol yw'r gerdd 'Pwllderi' gan Dewi Emrys a gyfansoddwyd yn nhafodiaith Sir Benfro.[4] Ysgrifennwyd y nofel Un Nos Ola Leuad gan Caradog Prichard yn nhafodiaith Bethesda.

Cafwyd ymgais yn y 1960au i ddyfeisio ffurf ar Gymraeg lafar safonol y gellid ei harfer yn yr ysgolion a thu hwnt ar gyfer dysgwyr a Chymry Cymraeg fel ei gilydd. Ceisiwyd hefyd cael hyd i ffordd safonol o ysgrifennu'r iaith lafar newydd hon. Ysgogwyd yr ymgais hwn gan ddarlith radio Ifor Williams yn 1960.[5] Pontio'r gagendor rhwng Cymraeg llenyddol a llafar ar gyfer myfyrwyr y Gymraeg oedd byrdwn y ddarlith. Wedi gwaith ymchwil gan addysgwyr cyhoeddwyd argymhellion yn y llyfryn Cymraeg Byw (1964). Bu croeso brwd i Gymraeg byw gan lawer o athrawon ail iaith, ond mynnai eraill y dylid addysgu'r iaith lenyddol yn unig ac eraill eto bod gwell ysgrifennu ffurfiau mwy tafodieithol fyth na'r hyn a argymhellwyd. Ni fabwysiadwyd Cymraeg Byw yn gyffredinol. Ond y mae ei ôl i'w weld yn yr ysgrifennu mwy llafar a thafodieithol a arferir erbyn hyn ar gyfer deialog mewn dramâu a ffuglen.

Yn sgil Cymraeg Byw datblygwyd dull mwy anffurfiol na Chymraeg lenyddol draddodiadol o ysgrifennu'r Gymraeg, mewn arddull a ddefnyddiai ffurfiau gramadegol yr iaith lafar a geirfa Cymraeg safonol. Cyfaddawd rhwng iaith lafar a Chymraeg ysgrifenedig ffurfiol ydyw. Gelwir yr arddull hon yn Gymraeg Cyfoes neu yn Gymraeg llai ffurfiol. Ymateb ydoedd i'r angen newydd am gyfathrebu ar bapur â'r cyhoedd nad oeddynt i gyd wedi arfer â darllen Cymraeg llenyddol tu allan i'r capel, yn sgil y galw am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Gwelir Cymraeg Cyfoes mewn taflenni gwybodaeth, erthyglau papur newydd ac mewn nofelau. Rhai o nodweddion iaith llai ffurfiol yw defnyddio rhagenwau wedi berf neu arddodiad, defnyddio ffurfiau cwmpasog y ferf, gollwng cytsain olaf rhai arddodiaid a berfau, byrhau nid i d yn y ffurf 'dydwi ddim' neu 'dwyf i ddim'.

Yr orgraff gyfoes golygu

Ceir 28 llythyren yn yr wyddor Gymraeg draddodiadol a'r llythyren J mewn geiriau benthyg.

Defnyddir arwyddnodau ychwanegol wrth ysgrifennu geiriau fel a ganlyn:

  • hirnod (neu "acen grom") ˆ ar lafariad i ddynodi llafariad hir ei sain, o dan rai amgylchiadau, gan gynnwys defnyddio'r hirnod:
    • i wahaniaethu rhwng geiriau â'r un sillafiad megis ôd/od, tŵr/twr, nâd/nad, (tŷ)dŷ/dy, gŵyr/gwŷr.
    • ar a, e, o, w, y hir o flaen l, n, r megis yn pêl, ôl, ynglŷn, cytûn.
    • o flaen –nt unsillafog lle bo'r llafariad yn hir megis gwnânt, bônt, a'r un modd o flaen –nt neu –m mewn sillaf olaf acennog megis nesânt, canfûm.
    • i ddynodi llafariad hir mewn sill olaf acennog megis iachâd, caniatâ.
    • ar w hir acennog yn pŵer, ymhŵedd, sŵoleg.
  • didolnod ¨ i ddynodi i acennog megis yn copïo, cwmnïau, saernïaeth, rhag ei chamgymryd am i gytseiniol. Ceir eithriadau i'r rheol hon ymysg rhai geiriau dwy sillaf megis dianc, diod, priod. Defnyddir y didolnod hefyd pan ddilyn dwy lafariad ei gilydd i ddangos nad deusain ydynt megis yn glöyn, gloÿnnod, glanhawr, tröedigaeth. Ar y llafariad acennog y dodir y didolnod neu ar y llafariad gyntaf pan nad oes gwahaniaeth acen rhwng y ddwy lafariad.
  • acen ddyrchafedig ´ yn gyffredinol i ddynodi lle'r acen pan ddisgyn ar fan anarferol gan gynnwys:
    • ar lafariad fer acennog mewn sill olaf acennog neu pan ddigwydd amwyster megis ffárwel, ffarwél.
    • pan fo –áu derfynol yn acennog megis iacháu, nacáu.
  • acen drom (neu "ddisgynedig") ` i ddynodi llafariad fer, gan amlaf mewn geiriau benthyg megis iòd, ac i wahaniaethu rhwng geiriau â'r un sillafiad megis bỳs/bys, mẁg/mwg.
  • cysylltnod - fel a ganlyn:
    • rhwng sillafau mewn cyfansoddeiriau clwm (geiriau cyfansawdd ag iddynt un acen yn unig) er mwyn hwyluso darllen y gair, e.e. budd-dal (neu budd-dâl), hwynt-hwy, hyd-ddo, rhydd-ddeiliad, rhyng-genedlaethol.
    • weithiau mewn cyfansoddeiriau llac (geiriau cyfansawdd lle mae'r elfennau wedi cadw acen) pan fo'r acen ar yr elfen gyntaf yn ddarostyngedig i'r acen ar yr ail (yn enwedig lle mae'r ail elfen yn unsillafog) megis ail-law, cam-drin, calon-galed, di-sglein, hunan-barch, lled-orwedd, pêl-droediwr, pen-blwydd, Tal-y-bont, tra-dyrchafodd, un-ffordd neu er mwyn hwyluso darllen y gair megis cyd-dynnu, di-alw-amdano, unig-anedig.
    • Pan fod pwyslais ar ragddodiad megis cyd-fynd, cyn-Brif Weinidog, is-bwyllgor, ôl-nodyn, uwch-bwyllgor.
  • collnod ' i ddynodi llythyren, sillaf neu air cyfan goll megis yn o'r, colli'ch, pleidleisio'n, 'nawr, i'w mewn Cymraeg ffurfiol ac anffurfiol ac ata'i, gwela', canan' nhw, be', 'steddfod, 'lly mewn Cymraeg anffurfiol.

Nodir nad oes cytundeb llwyr ynglŷn â'r rheolau uchod. Ni nodwyd rhai o'r rheolau nas arferir yn gyffredinol heddiw.

Llyfryddiaeth golygu

  • Orgraff yr Iaith Gymraeg Rhan I a II, gol. Ceri W. Lewis (Gwasg Prifysgol Cymru, 1987 a 1989)

Cyfeiriadau golygu

  1. Henry Lewis, Datblygiad yr Iaith Gymraeg (Prifysgol Cymru, 1931)
  2. Orgraff yr Iaith Gymraeg, 1928, Pwyllgor Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru
  3. Beibl i Gymru, Prys Morgan (Pwyllgor Dathlu Pedwarcanmlwyddiant Cyfieithu'r Beibl/Gwasg Cambria, 1988)
  4. Ymddengys y gerdd Pwllderi gan Dewi Emrys ym Mlodeugerdd Rhydychen o Farddoniaeth Gymraeg (The Oxford Book of Welsh Verse), gol. Thomas Parry (Oxford University Press, 1962)
  5. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, gol. Meic Stephens (Yr Academi Gymreig, 1986)

Dolen allanol golygu