Gweledydd Brahan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Gweledydd Brahan''', (Gaeleg: ''Coinneach Odhar Fiosaiche (y gweledydd glas proffwydol'')), neu Kenneth Mackenzie, yn ddyn hysbys a oedd yn gallu...'
 
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Roedd '''Gweledydd Brahan''', (Gaeleg: ''Coinneach Odhar Fiosaiche (y gweledydd glas proffwydol'')), neu Kenneth Mackenzie, yn ddyn hysbys a oedd yn gallu rhagfynegi’r dyfodol ac yn byw yn yr Alban yn y 17eg ganrif<ref>[http://www.historic-uk.com/HistoryUK/HistoryofScotland/The-Brahan-Seer-the-Scottish-Nostradamus/ Historic Scotland ''The Brahan Seer – the Scottish Nostradamus'']] adalwyd 12 Medi 2017</ref>. Yr awdur cyntaf i grybwyll hanes y dyn hysbys mewn llyfr oedd y Cymro [[Thomas Pennant]] yn ei lyfr ''A Tour in Scotland''<ref>[http://www.undiscoveredscotland.co.uk/usbiography/b/brahanseer.html UNDISCOVERED SCOTLAND ''THE BRAHAN SEER'']</ref>
 
Mae rhai yn honni bod nifer o broffwydoliaethau Gweledydd Brahan yn ffrwyth dychymyg y llenor gwerin Alexander MacKenzie, y dyn a fu’n gyfrifol am eu casglu gan fod rhai o’r hanesion a rhagfynegodd wedi digwydd ymhell cyn iddynt gael eu cyhoeddi mewn llyfr. Mae eraill yn cwestiynu os oedd y gweledydd wedi bodoli o gwbl.
 
==Bywyd cynnar==
Llinell 12:
 
==Marwolaeth==
Aeth Iarll Seaforth ar ymweliad a Pharis, ar gais y Brenin Siarl II, bu i ffwrdd am lawer hirach nag oedd ei wraig, yr iarlles, yn disgwyl. Heb wybod os oedd ei gŵr yn fyw neu farw gofynnodd yr Iarlles, i Kenneth os oedd yn gallu gweld be oedd wedi digwydd i’r iarll y ddinas bell. Atebodd y dyn hysbys "''Peidiwch ag ofni am eich arglwydd, mae'n ddiogel ac yn gadarn, yn dda o iechyd, yn fodlon ac yn hapus" ''<ref>[http://www.scotsman.com/lifestyle/the-brahan-seer-scotland-s-nostradamus-1-465275 The Scotsman ''The Brahan Seer: Scotland's Nostradamus'']]adalwyd 10 Medi 2017</ref>. Roedd yr Iarllesiarlles wedi drysu gyda’r atebymateb a phwysodd ar y dyn hysbys i egluro paham nad oedd wedi dychwelyd. Gwrthododd dweud ar sawl achlysur gan ymateb “Byddwch''Byddwch yn fodlon, heb holi rhagor - gadewch iddo fod yn ddigon i chi wybod bod eich arglwydd yn dda ac yn iach"'', ond parhaodd yr iarlles i bwyso arno i ddweud y cyfan. O dan y fath pwysau ildiodd Kenneth gan egluro bod yr iarll wedi anghofio am ei wraig, ei blant a’i gartref gan ei fod yn mwynhau pleserau rhywiol gyda merched Paris. Ffromodd yr iarlles, nid oherwydd anniweirdeb ei gŵr, ond oherwydd “enllib”''enllib'' Kenneth. Penderfynodd lladd y negesydd, a’i orchymyn i’wi'w llosgi fel gwrach.<ref>[http://www.sacred-texts.com/neu/celt/pbs/pbs11.htm The Seers Death ''Prophecies of the Brahan Seer, by Alexander Mackenzie, (1899), at sacred-texts.com''] adalwyd 10 Medi 2017</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}