Yr Iseldiroedd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 61:
 
Cyfaneddwyd tiriogaeth presennol yr Iseldiroedd yn [[Hen Oes y Cerrig]]. Mae'r oes hanesyddol yn dechrau yng nghyfnod yr [[Ymerodraeth Rhufeinig]], gan gynhwyswyd y rhannau o'r wlad i'r de o [[afon Rhein]] yn [[Talaith Rufeinig|nhalaith Rufeinig]] [[Gallia Belgica]], ac yn ddiweddarach [[Germania Inferior]]. Cyfaneddid y wlad ar y pryd gan amryw o [[Germaniaid|lwythi Germanaidd]], a chyfaneddid y de gan y [[Gâl]]iaid, a gyfunodd gyda newydd-ddyfodiaid yn perthyn i lwythau Germanaidd yn ystod [[Cyfnod yr Ymfudo]]. Ymfudodd [[Ffranciaid]] [[Salia]] i Âl o'r ardal yma, gan sefydlu llinach pwerus y [[Merovingiaid]] erbyn y [[5g]].
 
Dechreuodd ymerodraeth drefedigaethol yr Iseldiroedd gyda sefydlu Cwmni Iseldiraidd Dwyrain India yn 1602, gan sefydlu presenoldeb cryf yn ynysfor Indonesia. Roedd y trefedigaethau Iseldiraidd hefyd yn cynnwys Curaçao yn y Caribî, de Affrig, Mauritius, Seland Newydd a Tasmania. O 1641 hyd at 1853, roedd gan yr Iseldiroedd fonopoli ar fasnach gyda Siapan.<ref>{{Cite book|title=Histories of Nations: How their identities were forged|last=Frijhoff|first=Willem|publisher=Thames & Hudson|year=2012|isbn=978-0-500-29300-3|editor-last=Furtado|editor-first=Peter|location=Llundain|pages=150|chapter='The Netherlands'}}</ref>
 
== Taleithiau'r Iseldiroedd ==