Rhodri Molwynog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
brenin Gwynedd
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 18:04, 5 Tachwedd 2005
Roedd Rhodri ap Idwal (c.690-c.754; teyrnasodd o c.720), a adwaenir fel Rhodri Molwynog yn frenin Gwynedd.
Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am Rhodri. Roedd yn fab i Idwal ap Cadwaladr Fendigaid, ac felly o linach Cunedda Wledig. Cofnodir ei farwolaeth yn 754 yn y croniclau fel "Rodri rex brittonum moritur". Yn gynnar yn y ganrif nesaf yr oedd ei feibion Cynan Dindaethwy ap Rhodri a Hywel ap Rhodri Molwynog yn ymladd am oruchafiaeth yng Ngwynedd.
Nid oes eglurhad boddhaol o ystyr y gair "Molwynog".