Hywel ap Rhodri Molwynog
brenin Gwynedd
Roedd Hywel ap Rhodri Molwynog (bu farw 825), a elwir weithiau yn Hywel Farf-fehinog ap Caradog, yn frenin Gwynedd.
Hywel ap Rhodri Molwynog | |
---|---|
Bu farw | 825 ![]() |
Dinasyddiaeth | Cymru ![]() |
Galwedigaeth | teyrn ![]() |
Swydd | Teyrnas Gwynedd ![]() |
Tad | Rhodri Molwynog ![]() |
Bywgraffiad
golyguDywedir fod Hywel yn fab i Rhodri Molwynog ac yn frawd i Cynan Dindaethwy ap Rhodri. Cofnodir ymladd rhwng Cynan a Hywel am arglwyddiaeth ar Ynys Môn yn nechrau'r 9g. Bu Cynan farw yn 816 a theyrnasodd Hywel hyd ei farwolaeth yntau.
Yn ôl rhai ffynonellau roedd yn fab Caradog ap Meirion, a Chynan Dindaethwy yn gefnder iddo.
Pan fu farw yn 825 daeth llinach Cunedda Wledig i ben ar yr ochr wrywaidd. Dilynwyd ef gan Merfyn Frych ap Gwriad, gyda gwaed Cunedda yn cael ei drosglwyddo i'r llinell newydd trwy Ethyllt, merch ei frawd Cynan.
O'i flaen : Cynan Dindaethwy ap Rhodri |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Merfyn Frych ap Gwriad |