Cunedda

cyndad tywysogion Gwynedd
(Ailgyfeiriad o Cunedda Wledig)

Cunedda mab Edern (tua 386 - tua 460; teyrnasai efallai yn y 440au neu'r 450au), a adnabyddir fel rheol fel Cunedda Wledig, oedd sefydlydd Teyrnas Gwynedd.

Cunedda
Ganwyd386 Edit this on Wikidata
Gododdin Edit this on Wikidata
Bu farw460 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Blodeuodd450 Edit this on Wikidata
Swyddbrenin Edit this on Wikidata
TadEdern ap Padarn Beisrudd, Brenin Prydain ab Edeyrn ap Padarn Beisrudd ap Tegyd Edit this on Wikidata
PlantCeredig ap Cunedda, Einion Yrth ap Cunedda, Afloeg, Ysfael Gwron, Rhufon ap Cunedda, Dogfael ap Cunedda, Gwen ferch Cunedda Wledig ab Brenin Prydain ab Edeyrn, Gwron ap Cunedda Wledig ap Brenin Prydain ab Edeyrn Edit this on Wikidata
PerthnasauPadarn Beisrudd Edit this on Wikidata

Ei hanes golygu

Credir fod yr enw 'Cunedda' yn dod o'r gair cyfansawdd Brythoneg cunodagos, sy'n golygu "Arglwydd da". Roedd yn fab i Edern ("Eternus" yn Lladin ac wyr i Badarn Beisrudd ("Paternus" yn Lladin) fab Tegid ("Tacitus"). Mae'r enwau yn awgrymu fod dylanwad Rhufeinig cryf ar y teulu, ac mae rhai yn tybio fod "Peisrudd" yn enw ei daid yn cyfeirio at fantell goch neu ysgarlad oedd yn cael ei gwisgo gan uchel-swyddogion yn y fyddin Rufeinig.

Yn ôl y testunau a elwir yn Achau y Saeson, a briodolir i darddiad yn y 7c, yr oedd Cunedag yn un o hynafiaid Maelgwn Gwynedd, a dywedir ei fod wedi dod o Fanaw Gododdin yn yr Hen Ogledd gyda'i wyth mab 140 o flynyddoedd cyn teyrnasiad Maelgwn. Dywedir iddo ef a'i feibion ennill Gwynedd oddi wrth y Gwyddelod oedd wedi ymsefydlu yno.

Meibion Cunedda golygu

Rhoddodd meibion Cunedda eu henwau i nifer o diriogaethau yng ngogledd a gorllewin Cymru, er enghraifft Ceredig a roddodd ei enw i deyrnas Ceredigion, Dogfael a roddodd ei enw i Ddogfeiling yn Nyffryn Clwyd, a Rhufon a roddodd ei enw i deyrnas Rhufoniog. Dywedir i Dybion, mab hynaf Cunedda, farw tra'r oedd y teulu ym Manaw Gododdin, ond rhoddodd ei fab ef, Meirion, ei enw i Feirionnydd. Damcaniaeth arall yw mai penaethiaid yng ngwasanaeth Cunedda oedd y "meibion" hyn.

Dyma restr o'r naw mab:

  1. Tybion, tad Meirion, sefydlydd Meirionnydd).
  2. Ysfael
  3. Rhufon, sefydlydd Rhufoniog
  4. Dunod, sedfydlydd Dunoding
  5. Ceredig, sefydlydd Ceredigion
  6. Afloeg, sefydlydd Aflogion yn Llŷn
  7. Einion Yrth, sefydlydd Caereinion ym Mhowys
  8. Dogfael, sefydlydd Dogfeiling
  9. Edern, sefydlydd Edeirnion

Ffynonellau golygu