Durotriges: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Tudalen newydd: 220px|Llwythau Celtaidd De Lloegr Llwyth Celtaidd yn byw yn ne-orllewin Lloegr oedd y '''Durotriges'''. Roedd eu tirio...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 11:57, 18 Gorffennaf 2008

Llwythau Celtaidd De Lloegr

Llwyth Celtaidd yn byw yn ne-orllewin Lloegr oedd y Durotriges. Roedd eu tiriogaethau yn yr hyn sy'n awr yn swydd Dorset, de Wiltshire a de Gwlad yr Haf. Eu prif ddinasoedd oedd Durnovaria (Dorchester heddiw) a Lindinis (Ilchester heddiw).

Ymddengys eu bod yn cynghrair o lwythau llai yn hytrach na llwyth unedig. Roeddynt yn bathu arian, ond nid oedd ysgrifen ar y darnau arian, felly nid oes modd darganfod enwau rheolwyr. Eu safle enwocaf ye bryngaer Maiden Castle.

Ymladdasant yn erbyn y Rhufeiniaid yn 43 OC, a bu'r lleng Legio II Augusta, dan eu legad Vespasian a ddaeth yn ymerawdwr yn ddiweddarch, yn ymgyrchu yn eu tiriogaeth.