Bryngaer yn Dorset, De-orllewin Lloegr, yw Maiden Castle. Mae'n safle 44 erw (18 ha)[1] ar gopa Bryn Fordington, ger Dorchester. Credir y gallai'r amddiffynfeydd cyntaf ddyddio o tua 2,000 CC. Cloddiwyd y safle gan yr archaeolegydd enwog Syr Mortimer Wheeler a chafwyd hyd i dystiolaeth fod pentref o gyfnod Oes yr Haearn ar y safle tua 400 CC. Cafodd ei chipio gan y Rhufeiniaid yn OC 43 a'i gadael yn anghyfanedd ar ôl tua 70.

Maiden Castle
Mathsafle archaeolegol, caer lefal Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
Daearyddiaeth
SirWinterborne St Martin, Dorset Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd19 ±1 ha Edit this on Wikidata
Uwch y môr132 ±1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.695°N 2.47°W Edit this on Wikidata
Cod OSSY66938848 Edit this on Wikidata
Rheolir ganEnglish Heritage Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethEnglish Heritage Edit this on Wikidata
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Cloddiau a ffosydd amddiffynnol deheuol Maiden Castle

Cymharwyd maint a chryfder y fryngaer gydag un arall: Dinorben ger Abergele. Disgrifiwyd Dinorben (cyn iddi gael ei chwalu gan gloddio chwarelyddol yn yr 20g) gan yr archaeolegydd Gardner fel hyn: "Cododd y clawdd mewnol enfawr, a oedd eisioes wedi'i herydu, 7 metr llawn uwchben wyneb y tir, a bron i 12m uwchben gwaelod y ffos allanol... Mae hyn yn ei osod yn gyfartal â Maiden Castle yn Dorset, gwersyll aruthrol o fawr."[2]


Cyfeiriadau

golygu
  1. "Gwefan British History Online". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-21. Cyrchwyd 2010-09-10.
  2. intarch.ac.uk; adalwyd 13 Tachwedd 2024.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Dorset. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato