Jovian: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
B →‎top: Ardddull a manion sillafu, replaced: yr oedd → roedd using AWB
Llinell 8:
Gwnaeth Jovian gytundeb heddwch a'r Persiaid, gan gytuno i ildio iddynt y pum talaith Rufeinig i'r dwyrain o [[Afon Tigris]] oedd wedi eu concro gan [[Diocletian]] yn [[298]], a chaniatau i'r Persiaid feddiannu caerau [[Nisibis]], Castra Maurorum a [[Singara]]. Bu raid i'r Rhufeiniaid gytuno i ildio eu dylanwad yn [[Armenia]] hefyd, a bu raid i frenin Armenia, [[Arshak II]], gytuno i beidio cymryd rhan mewn unrhyw anghydfod rhwng Rhufain a Phersia yn y dyfodol, a hefyd ildio rhan o'i deyrnas i Sapor II.
 
Ystyriai'r Rhufeiniaid y cytundeb yma yn warth, a gwnaeth Jovian yn amhoblogaidd. Wedi cyrraedd [[Antiochia]] penderfynodd fynd ymlaen ar ei union i [[Caergystennin|Gaergystennin]] i geisio cryfhau ei safle. Yn wahanol i Julian, oedd wedi ceisio hyrwyddo paganiaeth, yr oeddroedd Jovian yn Gristion, a sicrhaodd fod deddfau Julian yn erbyn yr eglwys yn cael ei diddymu a bod [[Athanasius]] yn cael dychwelyd i'w esgobaeth.
 
Bu farw Jovian ar [[17 Chwefror]] 364 ar ôl teyrnasiad o ddim ond 8 mis. Cafwyd ef yn farw yn ei wely yn ei babell yn [[Dadastana]], hanner ffordd rhwng [[Ancira]] a [[Nicea]]. Nid oes sicrwydd am achos ei farwolaeth.