Jovian
Flavius Claudius Iovianus (332 – 17 Chwefror 364), mwy adnabyddus fel Jovian, oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 26 Mehefin 363 a'i farwolaeth.
Jovian | |
---|---|
Ganwyd | 331 Singidunum |
Bu farw | 17 Chwefror 364 Dadastana |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd |
Tad | Varronianus |
Priod | Charito |
Plant | Varronianus |
Ganed Jovian yn Singidunum yn Pannonia, yn fab i un o swyddogion yr ymerawdwr Cystennin II. Ymunodd a'r fyddin a daeth yn gadfridog. Aeth gyda'r ymerawdwr Julian ar ei ymgyrch yn erbyn y Persiaid dan Sapor II. Pan fu farw Julian o glwyf a dderbyniodd mewn ysgarmes yn erbyn y Persiaid, dewisodd y fyddin Jovian fel ymerawdwr.
Gwnaeth Jovian gytundeb heddwch a'r Persiaid, gan gytuno i ildio iddynt y pum talaith Rufeinig i'r dwyrain o Afon Tigris oedd wedi eu concro gan Diocletian yn 298, a chaniatau i'r Persiaid feddiannu caerau Nisibis, Castra Maurorum a Singara. Bu raid i'r Rhufeiniaid gytuno i ildio eu dylanwad yn Armenia hefyd, a bu raid i frenin Armenia, Arshak II, gytuno i beidio cymryd rhan mewn unrhyw anghydfod rhwng Rhufain a Phersia yn y dyfodol, a hefyd ildio rhan o'i deyrnas i Sapor II.
Ystyriai'r Rhufeiniaid y cytundeb yma yn warth, a gwnaeth Jovian yn amhoblogaidd. Wedi cyrraedd Antiochia penderfynodd fynd ymlaen ar ei union i Gaergystennin i geisio cryfhau ei safle. Yn wahanol i Julian, oedd wedi ceisio hyrwyddo paganiaeth, roedd Jovian yn Gristion, a sicrhaodd fod deddfau Julian yn erbyn yr eglwys yn cael ei diddymu a bod Athanasius yn cael dychwelyd i'w esgobaeth.
Bu farw Jovian ar 17 Chwefror 364 ar ôl teyrnasiad o ddim ond 8 mis. Cafwyd ef yn farw yn ei wely yn ei babell yn Dadastana, hanner ffordd rhwng Ancira a Nicea. Nid oes sicrwydd am achos ei farwolaeth.
Rhagflaenydd: Julian |
Ymerawdwr Rhufain 26 Mehefin 363 – 17 Chwefror 364 |
Olynydd: Valentinian I a Valens |