Margaret Pole, Arglwyddes Salisbury: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 22:
Uchelwraig Seisnig oedd '''Margaret Pole, Arglwyddes Salisbury''' ([[14 Awst]] [[1473]] – [[27 Mai]] [[1541]]). Roedd hi'n ferch i [[Siôr, Dug Clarens]], brawd [[Edward IV, brenin Lloegr]] a [[Rhisiart III, brenin Lloegr]]. Ei mam oedd Isabel o Warwick, merch [[Richard Neville, 16ed Iarll Warwick|Richard, Iarll Warwick]] (llysenw: y ''"Kingmaker"'') Roedd Margaret yn un o ddwy ferch yn yr [[16g]] yn Lloegr i fod yn arglwyddes drwy ei hawl ei hun: y llall oedd [[Anne Boleyn]], Ardalydd Penfro.
 
Yn 1500 priododd Margaret [[Syr Richard Pole]] (1462–1504), boneddigwr o [[Swydd Buckingham]] o dras Gymreig. Byddai eu mab [[Reginald Pole]] (1500–1588) yn ddiweddarach yn dod yn [[Cardinal (Eglwys Gatholig)| Gardinal]] yr [[Yr Eglwys Gatholig|Eglwys Gatholig Rufeinig]] ac yn [[Archesgob Caergaint]] yn ystod y [[Gwrth-Ddiwygiad]].
 
Roedd Margaret yn foneddiges breswyl i [[Catrin o Aragón]] pan oedd Catrin yn briod ag [[Arthur Tudur]] (1501–2) ac eto pan ailbriododd â [[Harri VIII, brenin Lloegr]] (1509).
 
Cafodd Margaret ei dienyddio yn 1541 yn [[Tŵr Llundain|Nhŵr Llundain]] ar orchymyn Harri VIII. Ym 1886 cafodd ei gwynfydoli fel merthyr i'r Eglwys Gatholig gan y [[Pab Leo XIII]].
 
==Llyfryddiaeth==