Academi Bangla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Tudalen newydd: 270px|bawd|Adeilad yr Academi Bangla yn [[Dhaka]] Asiantaeth iaith (neu fwrdd iaith) genedlaethol sy'n hyrwyddo'r iaith Fengaleg (Bangla) ym... |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 19:31, 13 Tachwedd 2008
Asiantaeth iaith (neu fwrdd iaith) genedlaethol sy'n hyrwyddo'r iaith Fengaleg (Bangla) ym Mangladesh yw'r Academi Bangla (Bengaleg: বাংলা একাডেমী ; Saesneg: Bangla Academy). Cafodd ei sefydlu ar 3 Rhagfyr 1955. Lleolir ei phencadlys yn Nhŷ Burdwan ar gampws Prifysgol Dhaka, ger Parc Ramna yn Dhaka, prifddinas Bangladesh.
Sefydlwyd yr Academi yn dilyn cyfnod o ymgyrchu am hawliau ieithyddol gan fudiadau protest fel Bhasha Andolon.
Prif orchwyl yr Academi yw cynnal gwaith ymchwil ar yr iaith Fengaleg, a'i diwylliant a hanes, a chyhoeddi gwaith llenyddol ac academaidd amdanynt. Mae wedi sefydlu Gwobr yr Academi Bangla, a roddir yn flynyddol am gyfraniadau llenyddol ac academaidd yn yr iaith.
I goffhau Bhasha Andolon a Diwnrod Merthyron yr Iaith, mae'r Academi yn cynnal Ffair Lyfrau Ekushey, y ffair lyfrau fwyaf yn y wlad, sy'n rhedeg am fis bob blwyddyn.