Aberfan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 15:
Rhoddwyd y bai am y drychineb ar y Bwrdd Glo Cenedlaethol gan dribiwnlys, ac fe'i orchmynwyd i dalu iawndal o £500 am bob plentyn i deuluoedd y meirw. Darganfuwyd fod y tomen glo wedi bod yn suddo ers misoedd, ond ni wnaethwyd dim am y mater. Dywedwyd fod dwr wedi cynyddu yn y pentwr o wastraff ar ben y mynydd gan achosi i'r gwastraff lifo i lawr y mynydd. Ym [[1958]] roedd y tip wedi cael ei leoli ar nant fechan (a ddangoswyd ynghynt ar fap Ordnance Survey) ac roedd peth tir wedi llithro cyn y digwyddiad ym [[1966]]. Roedd ansefydlogrwydd y tip glo yn wybyddus i reolwyr y pwll glo ac i'r rhai a weithiai yno, ond ychydig a wnaed am hyn. Cafodd Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful ac Undeb Cenedlaethol y Glowyr eu clirio o unrhyw gam-weithredu. Ni chafodd unrhyw weithiwr y Bwrdd Glo Cenedlaethol eu diswyddo na'u disgyblu.
 
Dangosodd y cyhoedd eu cydymdeimlad drwy gyfrannu'n ariannol, heb wybod i ble y byddai'r arian yn mynd. O fewn ychydig fisoedd, cafwyd bron 90,000 o gyfraniadau, gyda'r swm terfynol yn £1,606,929<ref>http://www.ukresilience.gov.uk/response/recovery_guidance/case_studies/y4_aberfan.aspx</ref> (2008:£21.4m)).<ref>http://www.thisismoney.co.uk/historic-inflation-calculator</ref>. Roedd y modd y cafodd y swm hwn ei reoli'n destun dadlau dros y blynyddoedd; defnyddiwyd yr arian hwn i glirio'r ardal o'r difrod a achoswyd gan y drychineb a theimlai nifer mai'r Bwrdd Glo Cenedlaethol dylai fod wedi gwneud hyn.
 
Ar ôl nifer o apeliadau, defnyddiwyd rhan o'r gronfa i wneud gweddill y tip glo yn ddiogel ac osgodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol y gost lawn o wneud hyn. Ad-dalodd llywodraeth y [[Blaid Lafur]] £150,000 ym [[1997]], ond pe bai chwyddiant wedi cael ei ystyried byddai'r swm hwn yn agos i £2 miliwn.<ref>http://www.thisismoney.co.uk/historic-inflation-calculator</ref>
 
Ar ôl nifer o apeliadau, defnyddiwyd rhan o'r gronfa i wneud gweddill y tip glo yn ddiogel ac osgodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol y gost lawn o wneud hyn. Ad-dalodd llywodraeth y [[Blaid Lafur]] £150,000 ym [[1997]], ond pe bai chwyddiant wedi cael ei ystyried byddai'r swm hwn yn agos i £2 miliwn.
 
Caewyd y pwll glo ym [[1989]]
 
Ym mis Chwefror [[2007]] cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad gyfraniad o £2 filiwn i Gronfa Goffa Trychineb Aberfan, fel rhyw fath o iawndal am yr arian a gafodd y llywodraeth yn y cyfnod yn union ar ôl y drychineb.
 
 
== Cyfeiriadau ==