Croesoswallt: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎Hanes: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 31:
Roedd Croesoswallt mewn bodolaeth mor bell yn ôl a 1086, pan gofnodwyd yn Llyfr Domesday i'r siryf Rainald adeiladu castell yng nghantref Mersete. Er bod Croesoswallt yn sefyll i'r dwyrain o [[Clawdd Offa|Glawdd Offa]], daeth nifer o Gymry i fyw yn y dref yn y 11eg a'r 12eg ganrif. Ymwelwyd â'r dref gan [[Gerallt Gymro]] ar ei daith trwy Gymru yn 1188. Derbyniodd Croesoswallt ei siarter gyntaf yn 1189-90, yr hon a elwir 'Y Siarter Gwtta' achos ei hyd; cyfeirir ati fel 'Blancminster' yn y ddogfen. Bwriad y ddogfen oedd cryfhau statws Croesoswallt fel tref farchnad.
 
Roedd Croesoswallt yn debyg i [[Berwick-upon-Tweed]], yn dref ar ffin Lloegr a newidiodd ddwylo ar achlysuron di-ri yn ystod yr Oesoedd Canol. Pan oedd awdurdod y tywysogion Cymreig ar ei anterth, cipiwyd y dref gan y Cymry, ond ar y cyfan, doedden nhw ddim yn medru cadw'r dref am gyfnod hir cyn i'r brenin Seisnig ei ail-gipio. Enghraifft o hyn yw camp [[Madog ap Maredudd]] yn 1149, pan gipiodd y dref a dechrau adeiladu castell yno; roedd y dref yn rhan o [[Powys|Bowys]] tan o leiaf 1157, ond wedyn, pasiwyd y dref i'r arglwydd William Fitzalan gyda bendith [[Harri II]]. Cipiodd [[Llywelyn Fawr]], [[Dafydd ap Gruffudd]], ac [[Owain Glyndŵr]] y dref yn 1233, 1282, ac (ar fwy nac un achlysur) yn y 1400au cynnar yn eu tro. Fe'i llosgwyd gan GlyndŵrGlyn Dŵr ar gymaint o achlysuron nes i'r dref dderbyn y ffugenw 'Pentrepoeth'.
 
Daeth Croesoswallt yn rhan o Loegr yn unol â'r [[Deddf Uno|Ddeddf Uno]] ym 1536.