Gordian III: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
B →‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Llinell 3:
'''Marcus Antonius Gordianus''' ([[20 Ionawr]] [[225]] – [[11 Chwefror]] [[244]]), a adnabyddir fel '''Gordian III''', oedd [[Rhestr Ymerodron Rhufeinig|ymerawdwr Rhufain]] o [[238]] hyd [[244]]
 
Ganed Gordian III yn fab i [[Antonia Gordiana]], hithau'n ferch i [[Gordian I]] a chwaer i [[Gordian II]]. Yr oeddRoedd Gordian I, oedd yn broconswl [[Africa (talaith Rufeinig)|Affrica]], wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn yr ymerawdwr [[Maximinus Thrax]], wedi ei gyhoeddi ei hun yn ymerawdwr ac wedi ei gadarnhau gan y [[Senedd Rhufain|Senedd]] fel ymerawdwr. Cymerodd ei fab, Gordian II, fel cyd-ymerawdwr. Fodd bynnag gorchfygwyd hwy gan lengoedd oedd yn parhau'n deyrngar i Maximinus. Lladdwyd Gordian II ar faes y gad, a lladdodd ei dad ei hun.
 
Enwodd y Senedd ddau ymerawdwr arall, [[Balbinus]] a [[Pupienus]]. Yr oeddRoedd y ddau yma'n amhoblogaidd yn Rhufain, a gorfodwyd hwy i enwi Gordian III fel olynydd, gan fod ei dad a'i ewythr ef wedi bod yn llawer mwy poblogaidd. Pan laddwyd Balbinus a Pupienus gan filwyr [[Gard y Praetoriwm]] daeth Gordian III yn ymerawdwr, yn ddim ond 13 oed, ar [[29 Gorffennaf]] [[238]].
 
Penododd Gordian ei diwtor Timesteus yn bennaeth Gard y Praetoriwm, ac yn [[241]] priododd Furia Sabina Tranquilina, merch Timesteus. Tua'r adeg honno ymosododd yr Almaenwyr ar y ffiniau ar [[Afon Rhein]] ac [[Afon Donaw]] ac ymosododd y [[Persiaid]] dan [[Sapor I]] ar dalaith [[Mesopotamia]], gan groesi [[Afon Ewffrates]]. Am y tro olaf mewn hanes, agorodd Gordian ddrysau teml [[Ianws (duw)|Ianws]] a chychwynnodd tua'r dwyrain gyda'i fyddin. Llwyddodd i orchfygu'r Persiaid a'u gwthio i'r dwyrain o'r Ewffrates. Pan oedd wrthi'n paratoi cynlluniau pellach gyda Timesteus, bu hwnnw farw mewn amgylchiadau anhysbys.