Sweyn I, brenin Denmarc: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

llywodraethwr ( -1014)
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tudalen newydd: 200px|bawd|Sweyn Farf Fforchog Brenin Denmarc, Lloegr a rhannau o Norwy oedd '''Sweyn I, brenin Denmarc''' (tua 960 - 3 Chwefror 1014). ...
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:10, 1 Rhagfyr 2008

Brenin Denmarc, Lloegr a rhannau o Norwy oedd Sweyn I, brenin Denmarc (tua 960 - 3 Chwefror 1014). Cyfeirir ato wrth sawl enw, yn cynnwys Sweyn Farf Fforchog (Sweyn Forkbeard), Sweyn Ddaniad (ffynonellau Saesneg), hefyd Svein, Svend, Swegen a Tuck (Hen Norseg: Sveinn Tjúguskegg, Norwyeg: Svein Tjugeskjegg, Swedeg: Sven Tveskägg; Daneg: Svend Tveskæg, o Tjugeskæg neu Tyvskæg). Roedd yn arweinydd Viking Llychlynaidd ac yn dad i'r brenin Canute. Pan fu farw ei dad Harald Lasdant ar ddiwedd 986 neu ddechrau 987, daeth yn frenin Denmarc; yn 1000, mewn cynghrair â'r Trondejarl, Eric o Lade, daeth yn rheolwr ar y rhan fwyaf o Norwy hefyd. Ar ôl cyfnod hir o ymgyrchu yn erbyn y Saeson am feddiant o'r wlad, ac yn fuan cyn ei farwolaeth, yn 1013 goresgynodd deyrnas Lloegr. Ym mlynyddoedd olaf ei oes, ef oedd teyrn Danaidd ymerodraeth a ymestynnai dros Fôr y Gogledd, ac a etifeddywd gan ei fab Canute a'i ehangodd i fod yn un o ymerodraethau mwyaf gogledd Ewrop.

Sweyn Farf Fforchog
Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.