Gên: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 11:
Mae'n debyg bod yr ên fertebraidd wedi [[Esblygiad|esblygu]]'n wreiddiol yn [[Silwraidd|y cyfnod Silwraidd]] ac yn ymddangos yn y [[Pysgodyn|pysgod]] placoderm ac arallgyfeiriodd ymhellach yn y cyfnod  [[Defonaidd]]. Credir bod y ddau fwa ffaryngeal blaenaf wedi datblygu i ffurfio'r ên a'r [[bwa hyoid]], yn y drefn honno. Mae'r system hyoid yn crogiannu'r ên o [[Cawell yr ymennydd|gawell yr ymennydd]] yn y [[Penglog|benglog]], gan ganiatáu symudedd mawr yn y genau. Er nad oes unrhyw dystiolaeth ffosil sy'n uniongyrchol gefnogi'r ddamcaniaeth hon, mae'n gwneud synnwyr yng ngoleuni'r niferoedd o fwâu ffaryngeal sy'n weladwy mewn fertebratau hefo genau (y Gnathostomau), sydd â saith bwa, a fertebratau heb enau cyntefig (yr Agnatha), sydd a naw<ref>{{cite book|title=Development, function and evolution of teeth|last1=Smith|first1=M.M.|last2=Coates|first2=M.I.|date=2000|publisher=Cambridge University Press|isbn=978-0-521-57011-4|editor1-last=Teaford|editor1-first=Mark F.|location=Cambridge|page=145|chapter=10. Evolutionary origins of teeth and jaws: developmental models and phylogenetic patterns|editor2-last=Smith|editor2-first=Moya Meredith|editor3-last=Ferguson|editor3-first=Mark W.J.}}</ref>
 
Credir bod y fantais ddewisol wreiddiol sy'n cael ei gynnig trwy esblygu gên yn gysylltiedig ag effeithlonrwydd [[anadlu]], yn hytrach nag at [[Bwyd|fwydo]]. Defnyddiwyd y genau yn y pwmp bochaidd (sydd i'w gweld mewn pysgod ac [[Amffibiad|amffibiaid]] modern) sy'n pwmpio dŵr ar draws tagellau pysgod neu aer i ysgyfaint amffibiaid. Dros gyfnod esblygodd defnydd mwy cyfarwydd yr enau (i bobl), sef bwydo. Swyddogaeth bwysig iawn mewn fertebratau. Mae llawer o bysgod teleost wedi addasu eu genau'n sylweddol ar gyfer sugno bwyd ac allwthiad ên, gan arwain at enau cymhleth iawn gyda dwsinau o esgyrn cysylltiedig.<ref>{{eginyncite anatomeg‎web|url=http://www.livescience.com/1161-prehistoric-fish-powerful-jaws.html|title=Prehistoric Fish Had Most Powerful Jaws|date=28 November 2006|website=Live Science|last1=Britt|first1=Robert Roy}}</ref>.
 
===Amffibiaid, ymlusgiaid ac adar===
Mae'r yr ên mewn tetrapodau wedi'i symleiddio'n sylweddol o'i gymharu â physgod. Mae'r rhan fwyaf o'r esgyrn ceg uchaf ([[blaengern]], [[macsila]], [[Cern|y gern]], [[cwadrat y gern]], a [[Cwadrat|chwadrat]]) wedi eu hymdoddi i ffurfio cawell yr ymennydd, tra bod yr esgyrn ên is (deintyddol, duegol, onglog, uwch onglog, a chymalol) wedi ymdoddi i greu'r mandibl. Mae'r ên yn ymgymalu trwy gymal colfachu rhwng yr esgyrn cwadrad a chymalol. Mae genau'r tetrapodau yn dangos graddau amrywiol o symudedd yn yr esgyrn ceg. Mae gan rai rhywogaethau esgyrn gên sydd wedi'u hymdoddi'n llwyr, tra bod gan eraill gymalau sy'n caniatáu symudedd yr esgyrn deintyddol, cwadrat neu'r macsila. Penglog [[neidr]] sy'n dangos y cinisis asgwrn pen mwyaf, sy'n caniatáu i'r neidr lyncu eitemau ysglyfaethus mawr.
 
=== Mamaliaid ===
Mewn [[Mamal|mamaliaid]], mae'r genau yn cynnwys y mandibl (yr ên isaf) a'r macsila (yr ên uchaf). Mae gan [[epa]] atgyfnerthiad i esgyrn yr ên isaf o'r enw'r silff simїaidd.
 
Yn esblygiad ceg y mamal, daeth dau o esgyrn strwythur yr ên; (esgyrn cymalol yr ên isaf a'r cwadrat) yn llai o faint a chawsant eu hymgorffori yn y glust<ref name="pmid1202224">{{cite journal|url=|title=Evolution of the mammalian middle ear|author=Allin EF|date=December 1975|journal=J. Morphol.|issue=4|doi=10.1002/jmor.1051470404|volume=147|pages=403–37|pmid=1202224}}</ref>. Cafodd llawer o'r esgyrn eraill ei ymsuddo i'w gilydd. O ganlyniad mae mamaliaid yn dangos ychydig neu dim cinisis esgyrn y pen, ac mae'r mandibl ynghlwm wrth yr asgwrn arleisiol gan yr unedau arleisiol mandiblaidd. Mae anhwylder yr unedau arleisiol mandiblaidd yn anhwylder cyffredin sy'n cael ei nodweddi gan boen, sŵn clicio a chyfyngu ar symudiad y mandibl<ref name="pmid12022242">{{cite journal|url=|title=Evolution of the mammalian middle ear|author=Allin EF|date=December 1975|journal=J. Morphol.|issue=4|doi=10.1002/jmor.1051470404|volume=147|pages=403–37|pmid=1202224}}</ref>.