Aberth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Groeg yr henfyd
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
Arfer neu ddefod [[crefydd|grefyddol]] yw '''aberth''' neu '''offrwm''' sydd yn cynnig rhywbethbywyd anifail neu [[aberth dynol|fod dynol]] i [[duw|dduw]] neu fod goruwchnaturiol arall er sefydlu, cynnal, neu adfer perthynas rhwng yr addolwr a'r drefn sanctaidd. GallPrif amrywioddiben oaberth offrymuyw gwrthrychaugwneud megisiawn bwydac neuheddychu'r wneuthurbethaubod hydgoruwchnaturiol. atDefnyddir laddebyrth anifaili neuddibenion [[abertheraill, dynol|fodsef dynoli gadarnhau [[cyfamod]], eri cynnigddatgan eidiolchgarwch, fywydac ynfel abertherfyniad am drugaredd.
 
Ymarferai ebyrth gan [[crefydd|grefyddau]] ar draws y byd ac ers cyfnod boreuaf y ddynolryw. Yn gyffredin caiff aberth anifail ei wneud trwy dywallt ei waed, a'i losgi ar [[allor]].
{{eginyn crefydd}}
 
Gelwir defod debyg sydd yn cynnig gwrthrychau megis bwyd neu wneuthurbethau, fel rheol heb eu dinistrio, yn '''offrwm'''.
 
== Crefydd Groeg yr henfyd ==
[[Delwedd:Sacrifice scene Louvre G402.jpg|bawd|Golygfa o losgaberth ar lestr gwin Groegaidd, tua 430–425 CC.]]
Mae hanesion boreuaf [[Groeg yr henfyd|Groeg]] yn llawn o enghreifftiau o ebyrth gwaedlyd, ac ymhellach hefyd, o aberthau dynol. Mae'r chwedl am Iphigenia yn cael ei haberthu gan ei thad, i ddyhuddo digofiant [[Artemis]], yn ddangosiad amlwg fod pwrcasu bywyd ag aberth yn unol â syniadau'r Groegiaid. Nid yw eu hanes yn amddifad o esiamplau credadwy o ebyrth dynol. Aberthodd [[Themistocles]], o flaen [[Brwydr Salamis]], rai o'r Persiaid, i [[Dionysus]].
 
Aberthau o anifeiliaid oedd y rhai lluosocaf yn oes y Groegiaid. Yr arferiad cyffredin yn yr oesoedd cynnar oedd llosgi'r holl anifail, ac oddi wrth y gair hwn y cymerir y gair ''holocost'' (llosgaberth), am aberthau a lwyr losgid ar yr allor. Ond yr arferiad mewn oesoedd diweddarach, fel y gwelir yn arwrgerddi [[Homeros]], oedd llosgi'r coesau mewn braster a rhyw rannau o'r perfeddion, a gwledda ar y gweddill. Tybient fod y duwiau yn ymhyfrydu yn y mwg a esynai oddi ar yr allor, a bod effeithiolrwydd yr aberth yn ymddibynnu ar nifer yr anifeiliaid a offrymid. Felly, arferiad cyffredin oedd aberthu cant o ychain ar unwaith, a gelwid aberth felly yn ''hecatomb''. Ni chyfyngwyd yr enw at y nifer, ond rhoddwyd ef ar bob aberth o bwysigrwydd mwy na chyffredin.
 
Ym mytholeg Roeg, darlunir [[Iau (duw)|Iau]] fel wedi ei ddigio am fod [[Promethëws (mytholeg)|Promethëws]] wedi cadw'r gorau o'r anifail yn ymborth, yn lle llosgi'r cyfan ar yr allor.
 
{{Testun Y Gwyddoniadur Cymreig}}
 
[[Categori:Aberth| ]]