After Eden: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Perfformio: #wici365
Llinell 4:
 
==Cefndir==
Dim ond dau gymeriad sydd yn y bale, un dyn ([[Adda]]) ac un fenyw ([[Efa]]). Mae'r ddau yn cael eu crybwyll yn stori'r creu yn [[llyfr Genesis]] o'r [[Beibl]]. Roedd Duw wedi creu Adda o lwch y ddaear a'i osod yng [[Gardd Eden|Ngardd Eden]]. Dywedir wrth Adda y gall mwynhau ffrwythau holl goed yr ardd, ac eithrio ffrwyth y goeden sy'n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Mae Duw wedyn yn creu Efa allan o un o asennau Adda i fod yn gymar iddo. Mae sarff yn twyllo Efa i fwyta ffrwythau o'r goeden waharddedig, ac mae'n rhoi rhywfaint o'r ffrwythau i Adda. Mae'r gweithredoedd hyn yn rhoi gwybodaeth ychwanegol iddynt, ond mae'n rhoi iddynt y gallu i gywain cysyniadau negyddol a dinistriol fel cywilydd a drwg hefyd. I gosbi'r ddau am anwybyddu ei orchymyn i beidio bwyta ffrwyth y pren da a drwg mae Duw yn eu troi nhw allan o baradwys Gardd Eden.<ref>[http://www.beibl.net/beibl-chwilio?pennod=2&book=BNET%3AGen&viewid=BNET%3AGen.2&newwindow=BOOKREADER&math= Beibl Net Genesis 2] adalwyd 07/04/2018</ref>.
 
==Y stori==