Antoninus Pius: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B robot yn ychwanegu: lt:Antoninas Pijus
BDim crynodeb golygu
Llinell 7:
Dywedir fod Antoninus Pius yn ymerawdwr poblogaidd iawn oherwydd ei allu a'i hynawsedd. Amddiffynnodd y [[Cristionogion]] yn yr ymerodraeth ac yr oedd yn nodedig o drugarog wrth ddelio a chynllwynion yn ei erbyn. Yr oedd yn gyfrifol am lawer o adeiladu, yn enwedig yn ninas Rhufain.
 
Yn ystod ei deyrnasiad bu gwrthryfel yn [[Mauritania]], [[Judea]] a [[Prydain]] lle gwrthryfelodd y [[Brigantes]], ond nid oedd yr un ohonynt yn ddifrifol iawn. Antoninus Pius oedd yn gyfrifol am adeiladu'r [[Mur Antonaidd]] yn [[Yr Alban]], tua 160 km i'r gogledd o [[Mur Hadrian|Fur Hadrian]]. Priododd a [[Faustina yr Hynaf]] a bu ganddynt ddau fab a dwy ferch, ond yr oedd y rhain i gyd wedi marw cyn iddo ddod yn ymerawdwr agac eithrio [[Faustina yr Ieuengaf]], a briododd [[Marcus Aurelius]]. Penododd Marcus Aurelius fel ei olynydd.
 
Bu farw yn Lorium ([[Etruria]]) ar [[7 Mawrth]] [[161]]. Ystyrir ei deyrnasiad, ynghyd a [[Trajan]] a Hadrian o'i flaen a Marcus Aurelius ar ei ôl, yn oes aur yr ymerodraeth Rufeinig.