Aeronwy Thomas: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Deb (sgwrs | cyfraniadau) llyfryddiaeth |
Pwyll (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
==Bywgraffiad==
Ganed Thomas yn [[Llundain]], lle trigai ei rhieni. Fe'i henwyd ar ôl yr [[Afon Aeron]]. Ym 1949, symudodd y teulu i'r Boathouse, [[Talacharn]], [[Sir Gaerfyrddin]]. Hi oedd y plentyn canol allan o dri. Roedd ganddi ddau frawd Llewellyn a Colm.
Pan yn 10 oed, cofrestrodd ei mam Aeronwy Thomas yn Ysgol Addysgiadol y Celfyddydau yn [[Tring, Swydd Hertford|Tring]], [[Swydd Hertford]]. Yn dilyn marwolaeth ei thad ym 1953, symudodd hi a'i mam i [[Sicily]], ac yn ddiweddarach i [[Rhufain]] ar ôl i'w mam ail-briodi ym 1957. Derbyniodd Thomas radd anrhydedd BA yn Saesneg a Chrefydd Cymharol o Goleg Isleworth, a diploma [[TEFL]] o Goleg Addysg i Oedolion Woking. Yn 2003 derbyniodd Gymrodoriaeth Anrhydeddus wrth [[Prifysgol Abertawe|Brifysgol Abertawe]].
===Gyrfa===
Ar ôl iddi ddysgu [[Eidaleg]], bu'n gweithio fel cyfieithydd barddoniaeth Eidalaidd. Roedd hi hefyd yn lysgennad dros waith ei thad, ac yn noddwr o '''Gymdeithas Dylan Thomas'''. Roedd hefyd yn Lywydd i'r [[Gynghrair i Gymdeithasau Llenyddol]].
{{fact|date=July 2009}}
===Bywyd personol===
Roedd ganddi hi a'i gŵr Trefor Ellis ddau o blant: mab, Huw, a merch, Hannah.
===Marwolaeth===
Bu farw Aeronwy Thomas yn 66 oed o [[cancr|gancr]] ar y 27 Gorffennaf, 2009 yn [[Llundain]].
==Llyfryddiaeth==
|