Brwydr Cai (Winwaed): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎Cyfeiriadau: clean up
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
Ymladdwyd '''Brwydr Cai''' (neu '''Frwydr Gai''', neu '''Frwydr Winwaed''') yn [[654]] rhwng [[Penda]], brenin [[Mercia]], ac [[Oswy]] brenin [[Brynaich]] ([[Northumbria]]), brawd y brenin [[Oswallt]].
 
Roedd Penda wedi gwneud cynghrair â [[Cadwallon ap Cadfan|Chadwallon ap Cadfan]], brein [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], yn erbyn Northumbria. Wedi marwolaeth Cadwallon, gwnaeth gynghrair ag olynydd Cadwallon fel brenin Gwynedd, [[Cadafael ap Cynfeddw]]. Roedd ganddo hefyd gynheiriaid o [[Deira]]. Gyda'r gelyn gerllaw, ymadawodd Cadafael a'i fyddin yn y nos, gan ennill iddo'i hun y llysenw "Cadafael Cadomedd". Gorchfygwyd Penda a'i ladd.