Brwydr Cai (Winwaed)
Ymladdwyd Brwydr Cai (neu Frwydr Gai, neu Frwydr Winwaed) yn 654 rhwng Penda, brenin Mersia, ac Oswy brenin Brynaich (Northumbria), brawd y brenin Oswallt.
Math o gyfrwng | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 15 Tachwedd 655 |
Lleoliad | Cock Beck |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Roedd Penda wedi gwneud cynghrair â Chadwallon ap Cadfan, brein Gwynedd, yn erbyn Northumbria. Wedi marwolaeth Cadwallon, gwnaeth gynghrair ag olynydd Cadwallon fel brenin Gwynedd, Cadafael ap Cynfeddw. Roedd ganddo hefyd gynheiriaid o Deira. Gyda'r gelyn gerllaw, ymadawodd Cadafael a'i fyddin yn y nos, gan ennill iddo'i hun y llysenw "Cadafael Cadomedd". Gorchfygwyd Penda a'i ladd.
Dilynwyd Penda fel brenin rhan ddeheuol Mersia gan ei fab Peada, tra bu rhan ogleddol y deyrnas dan reolaeth Northumbria am gyfnod.
Lleoliad
golyguDoes neb gant-y-cant yn sicr ym mhle mae Maes Gai, fel y gelwid maes y frwydr gan yr hen Frythoniaid, ond ymddengys mai'r lleoliad mwyaf tebygol ydy afon rhywle yn yr hen Elfed, afon Gwinwaed o bosibl. Enw'r afon heddiw, o bosib, ydy "Cock Beck" yn Leeds.
Cred eraill mai'r afon Went sydd yma, i'r gogledd o Doncaster.