Athroniaeth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
sgerbwd erthygl
Tagiau: Golygiad cod 2017
Llinell 1:
[[Delwedd:Edward Herbert, 1st Baron Herbert of Cherbury by Isaac Oliver.jpg|bawd|200px|[[Edward Herbert]] neu'r 'Barwn Herbert o Cherbury. "Tad athroniaeth yng Nghymru."]]
[[Delwedd:Confucius - Project Gutenberg eText 15250.jpg|bawd|200px|[[Conffiwsiws]]; darlun gan E. T. C. Werner.]]
Astudiaeth o sut y dylem fyw ([[moeseg]]), sut mae pethau'n bodoli ([[metaffiseg]]), natur gwybod ([[epistemoleg]]), a [[rhesymeg]] yw '''athroniaeth'''.
 
Llinell 11 ⟶ 10:
Y gair gwreiddiol am athroniaeth yn y Gorllewin oedd y gair [[Groeg]] φιλοσοφία (''philosophia''), sy'n golygu "cariad at wybodaeth".<ref>[http://www.perseus.tufts.edu/cgi-bin/ptext?doc=Perseus%3Atext%3A1999.04.0057%3Aentry%3D%23111487 Philosophia, Henry George Liddell, Robert Scott, ''A Greek-English Lexicon'', at Perseus]</ref><ref>[http://www.etymonline.com/index.php?search=philosophy&searchmode=none Online Etymology Dictionary]</ref>
 
== Gwybodaeth a gwirionedd ==
==Llinell amser==
{{prif|Gwybodaeth (epistemoleg)|Gwirionedd}}
Yn ei ystyr athronyddol, y corff o ffeithiau, dealltwriaeth a medrau sydd gan berson neu grŵp yw gwybodaeth. [[Epistemoleg]] yw astudiaeth gwybodaeth.
 
== Realiti ==
{{prif|Realiti}}
Y cyflwr o fod yn real, hynny yw pethau fel y maent yn wirioneddol fod yn hytrach nag fel y dymunir iddynt fod, yw realiti.
 
== Yr hunan ==
{{prif|Hunan}}
{{eginyn athroniaeth-adran}}
 
== Metaffiseg ==
{{prif|Metaffiseg}}
Cangen o athroniaeth sy'n ymwneud ag egwyddorion sylfaenol yw metaffiseg. Ei nod yw cael gwybod am wir [[ystyr]] pethau a'u hanfod, ac felly mae'n astudio yn bennaf [[Cysyniad|cysyniadau]] [[Haniaeth|haniaethol]], hynny yw pethau nad oes modd eu profi'n [[Diriaeth|ddiriaethol]].
 
== Athroniaeth gymhwysol a rhyngddisgyblaethol ==
=== Athroniaeth wleidyddol ===
{{prif|Athroniaeth wleidyddol}}
Athroniaeth sy'n ymwneud â chysyniadau a dadleuon [[Gwleidyddiaeth|gwleidyddol]] yw athroniaeth wleidyddol. Mae'n astudio a thrafod pynciau megis rhyddid, [[cyfiawnder]], hawliau a [[Dyletswydd|dyletswyddau]], [[Rhwymedigaeth wleidyddol|rhwymedigaethau]], [[y gyfraith]], [[eiddo]], grym, [[awdurdod]], systemau gwleidyddol, a natur [[llywodraeth]], yn enwedig ei phwrpas, ei swyddogaethau a'i chyfreithlondeb.
 
=== Athroniaeth grefyddol a diwinyddiaeth ===
{{prif|Athroniaeth grefyddol|Diwinyddiaeth}}
{{eginyn-adran}}
 
=== Athroniaeth y gwyddorau a rhesymeg ===
{{prif|Athroniaeth y gwyddorau|Rhesymeg}}
{{eginyn-adran}}
 
=== Estheteg ===
{{prif|Estheteg}}
Cangen o athroniaeth yw estheteg sy'n ymwneud â natur [[prydferthwch]], [[celfyddyd]], a chwaeth. Nod estheteg yw i ddarparu meini prawf o ddelfrydau ar gyfer astudiaeth feirniadol o'r celfyddydau.
 
=== Moeseg ===
{{prif|Moeseg}}
Astudiaeth athronyddol maes [[moesoldeb]], sef y cwestiwn mawr o "sut y dylem fyw", yw moeseg. Gellir rhannu hanes moeseg yn y Gorllewin yn sawl rhan, gan gychwyn gyda [[Groeg yr Henfyd|Groegiaid yr Henfyd]] a gwaith y Soffyddion fel [[Protagoras]] ac wedyn athronwyr mawr fel [[Socrates]], [[Platon]] ac [[Aristotlys]]. Ar seiliau gwaith y Groegiaid ond dan ddylanwad ac ysbrydoliaeth amlwg y [[Testament Newydd]], datblygodd moeseg [[Cristnogaeth|Gristnogol]]. Un o foesegwyr mawr yr [[Oesoedd Canol]] oedd [[Thomas Aquinas]] a ddilynodd Aristotlys mewn sawl maes ond a roddodd y pwyslais ar y [[dyletswydd]] i ufuddhau i ddeddfau [[Duw]]. Yn y Cyfnod Modern newidiodd cyfeiriad moeseg a datblygodd Naturiolaeth Foesegol, a welir yng ngwaith [[Thomas Hobbes]], er enghraifft. Ond daeth syniadau eraill i'r amlwg, rhai ohonynt yn wrthwynebus i syniadaeth Hobbes, a chafwyd sawl athroniaeth moes yn cynnwys [[Iwtilitariaeth]], athroniaeth [[Immanuel Kant]] a moeseg ôl-Kantaidd, sy'n ymrannu'n sawl ffrwd.
 
Ethos bywyd yr unigolyn yw moeseg; moesoldeb yw'r agweddau sy'n ymwneud â phobl eraill a chymdeithas oll, megis dyletswyddau ac iawnderau. Delfrydau'r ddamcaniaeth foesol nodweddiadol yw cyffredinoliaeth ac [[amhleidioldeb]], ac yn aml bydd y damcaniaethwr normadol yn llunio egwyddorion a safonau ymddygiad er mwyn byw'n moesegol. Mae rhai'n gweld y reddf ddynol a synnwyr cyffredin yn sylfeini moeseg. Hyd yn oedd mewn damcaniaethau sy'n honni eu bod yn hollgyffredinol, maent yn "feysydd ffrwydron" moesegol sy'n llawn cyfyng-gyngor a [[Dilema|dilemâu]] sy'n ddadleuon cymhleth o egwyddorion, cafeatau, amodau arbennig, ac anghysondebau.
 
== Hanes ==
=== Athroniaeth y Gorllewin ===
{{eginyn-adran}}
=== Athroniaeth India ===
{{eginyn-adran}}
 
=== Athroniaeth Dwyrain Asia ===
[[Delwedd:Confucius - Project Gutenberg eText 15250.jpg|bawd|200px|[[Conffiwsiws]]; darlun gan E. T. C. Werner.]]
{{eginyn-adran}}
 
=== Athroniaeth Affrica ===
{{eginyn-adran}}
 
===Llinell amser ===
{{Timeline of ancient philosophers}}
 
Llinell 50 ⟶ 102:
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
 
{{eginyn athroniaeth}}
 
[[Categori:Athroniaeth| ]]
[[Categori:Dyniaethau]]