Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2018: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 43:
Yn hytrach na Maes traddodiadol, lleolwyd yr Eisteddfod yn yr ardal o gwmpas [[Y Senedd (adeilad y Cynulliad)|y Senedd]] a [[Canolfan y Mileniwm|Chanolfan y Mileniwm]] ym Mae Caerdydd, gyda'r Ganolfan yn cymryd lle'r Pafiliwn arferol. Adeilad y Senedd oedd cartref Y Lle Celf. Gosodwyd yr amryw stondinau ar y parciau o gwmpas yr [[Eglwys Norwyaidd, Caerdydd|Eglwys Norwyaidd]] ac ar waelod Rhodfa Lloyd George. Gosodwyd llwyfan y maes a'r pentref bwyd ym [[Plas Roald Dahl|Mhlas Roald Dahl]]. Defnyddwyd hen adeilad Profiad Doctor Who ar gyfer Maes B gyda Chaffi Maes B ar dir cyfagos.
 
Profodd yr Eisteddfod yn llwyddiant gyda nifer yn canmol natur agored a chynhwysol y Maes. Dywedodd nifer o stondinwyr eu bod wedi yn brysur a fod busnes wedi bod yn dda. Yn dilyn yr '"arbrawf'" cododd rhai y syniad o barhau gyda'r un patrwm yn y dyfodol gyda Maes agored ac am ddim. Dywedodd yr Eisteddfod y byddai rhaid edrych ar sut y gellir ariannu y fath ŵyl mewn lleoliadau eraill, lle efallai nad oes yr adnoddau ac adeiladau fel oedd ar gael ym Mae Caerdydd.<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/45141638|teitl=Ble nesaf i'r Eisteddfod arbrofol wedi Caerdydd?|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=10 Awst 2018|dyddiadcyrchu=14 Awst 2018}}</ref>
 
==Prif gystadlaethau==
=== Y Gadair ===
Enillydd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|y Gadair]] oedd [[Gruffudd Eifion Owen]] (ffugenw ''"Hal Robson-Kanu''"). Traddodwyd y feirniadaeth gan [[Ceri Wyn Jones]], ar ran ei gyd-feirniaid Emyr Davies a [[Rhys Iorwerth]]. Cystadlodd 11 eleni a'r dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau o dan y teitl ''Porth''. Dywedodd y beirniaid fod hi'n gystadleuaeth eithriadol o agos a bod "y 'gŵr dienw'" hefyd yn deilwng o'r Gadair ond roedd awdl Gruffudd wedi rhoi mwy o wefr i'r tri beirniad.<ref>{{dyf gwe|url=http://eisteddfod.cymru/gruffudd-eifion-owen-yn-ennill-cadair-eisteddfod-genedlaethol-caerdydd|teitl=Gruffudd Eifion Owen yn ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd|cyhoeddwr=Eisteddfod Genedlaethol Cymru|dyddiad=10 Awst 2018}}</ref> Datgelwyd mai [[Eurig Salisbury]] (ffugenw ''"y gwr dienw''") oedd yn ail am y Gadair.<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/526400-eurig-salisbury-gadair|teitl=Eurig Salisbury yn ail am y Gadair… eto|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=11 Awst 2018|dyddiadcyrchu=14 Awst 2018}}</ref>
 
Noddwyd y Gadair gan [[Amgueddfa Cymru]] i dddathlu pen-blwydd [[Amgueddfa Werin Cymru|Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan]] yn 70 oed yn 2018, a penodwyd Chris Williams o Oriel y Gweithwyr, Ynyshir i'w chreu. Bu Sain Ffagan yn gartref i arddangosfeydd am grefftau traddodiadol yng Nghymru ers ei sefydlu ym 1948. Debyniodd yr enillydd hefyd wobr ariannol o £750, yn rhoddedig gan Gaynor a [[John Walter Jones]] er cof am eu merch Beca.
 
=== Y Goron ===
Enillydd [[Coron yr Eisteddfod Genedlaethol|y Goron]] oedd [[Catrin Dafydd (llenores)|Catrin Dafydd]] (ffugenw ''"Yma''"). Traddodwyd y feirniadaeth gan [[Christine James]] ar ran ei chyd-feirniaid [[Ifor ap Glyn]] a [[Damian Walford Davies]]. Cystadlodd 42 eleni a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun ''Olion''. Testun y casgliad oedd Cymreictod ‘cymysg’"cymysg" Trelluest (Grangetown), Caerdydd ac yn y feirniadaeth dywedodd Christine James "Dyma gasgliad amserol ac apelgar o obeithiol gan fardd sy’n lladmerydd huawdl dros Gymreictod cymysg, byrlymus y brifddinas".<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/525976-catrin-dafydd-ennill-goron|teitl=Catrin Dafydd yn ennill y goron|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=6 Awst 2018}}</ref>
 
Gemydd o [[Castell-nedd|Gastell-nedd]], Laura Thomas, 34 oed, a ddewisiwyd i gynllunio'r goron, a dywedir ei bod wedi creu dyluniad "modern ac unigryw ond sydd hefyd yn parchu traddodiadau’r Eisteddfod".<ref name=Gwefan/> Noddir y goron gan [[Prifysgol Caerdydd|Brifysgol Caerdydd]]. Astudiodd Laura [[gemwaith]] yn ''Central Saint Martins'' yn [[Llundain]], ac mae hi'n gweithio i gwmni Gemwaith Mari Thomas yn [[Llandeilo]], [[Sir Gaerfyrddin]]. Derbyniodd yr enillydd hefyd wobr ariannol o £750, rhoddedig gan [[Manon Rhys]] a [[Jim Parc Nest]].
 
=== Gwobr Goffa Daniel Owen ===
Yr enillydd oedd Mari Williams o Gaerdydd. Traddodwyd y feirniadaeth gan [[Meinir Pierce Jones]] ar ran ei chyd-feirniaid [[Bet Jones]] a [[Gareth Miles]]. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen a £5,000, yn rhoddedig gan [[CBAC]]. Daeth 10 cynnig ar y gystadleuaeth eleni. ''Doe a Heddiw'' oedd enw y darn buddugol pan gafodd ei gyflwyno, ac "Ysbryd yr Oes" oedd y ffugenw. Bellach, ail-enwydailenwyd y nofel yn ''Ysbryd yr Oes''.
 
=== Y Fedal Ryddiaith ===
Enillydd [[Medal Ryddiaith|y Fedal]] oedd [[Manon Steffan Ros]] o [[Tywyn, Gwynedd|Dywyn]] gyda'i chyfrol ''Llyfr Glas Nebo'' dan y ffugenw "Aleloia". Y dasg oedd cyfansoddi cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema '"Ynni'" gyda gwobr ariannol o £750 yn ogystal a'r Fedal. Derbyniwyd 14 o gyfrolau eleni a thraddodwyd y feirniadaeth gan [[Sonia Edwards]] ar ran ei chyd-feirniaid [[Menna Baines]] a [[Manon Rhys]].<ref>{{dyf newyddion|url=https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/45117665|teitl=Manon Steffan Ros yn ennill y Fedal Ryddiaith|cyhoeddwr=BBC Cymru Fyw|dyddiad=8 Awst 2018}}</ref>
 
=== Tlws y Cerddor ===
Llinell 66:
 
=== Y Fedal Ddrama ===
Enillydd [[Medal Ddrama|y Fedal]] oedd Rhydian Gwyn Lewis, yn wreiddiol o Gaernarfon sydd nawr yn byw yn Grangetown, Caerdydd, am ei ddrama ''Maes Gwyddno'' (ffugenw "Elffin"). Traddodwyd y feirniadaeth gan [[Betsan Llwyd]] ar ran ei chyd-feirniaid Sarah Bickerton ac Alun Saunders. Y dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd. Cyflwynwyd y Fedal er cof am Urien Wiliam, rhoddedig gan ei briod Eiryth a’r plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal a gwobr o £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli).<ref>{{dyf newyddion|url=https://golwg360.cymru/newyddion/cymru/526253-rhydian-gwyn-lewis-ennill-fedal-ddrama|teitl=Rhydian Gwyn Lewis yn ennill y Fedal Ddrama|cyhoeddwr=Golwg360|dyddiad=9 Awst 2018}}</ref>
 
==Canlyniadau Cystadlaethau==