Afon Cynfal: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Cyfnewid Gwybodlen am un o WD using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle
[[Delwedd:Afon Cynfal - geograph.org.uk - 64854.jpg|250px|bawd|Afon Cynfal: Ceunant Cynfal.]]
| gwlad = {{banergwlad|Cymru}}
}}
 
[[Afon]] fynyddig ym [[Meirionnydd]], de [[Gwynedd]], yw '''Afon Cynfal'''. Mae hi'n dwyn cysylltiad â sawl traddodiad [[llên gwerin]]. Mae hi'n rhedeg o gyffiniau'r [[Migneint]] i ymuno ag [[Afon Dwyryd]]. Ei hyd yw tua wyth milltir.
 
==Cwrs==
Mae Afon Cynfal yn tarddu ar y Migneint, y tir [[cors]]iog uchel agored rhwng [[Ffestiniog]] ac [[Ysbyty Ifan]]. Mae'n cychwyn ei thaith fel Nant y Pistyll-gwyn, hanner milltir i'r de o [[Llyn Conwy|Lyn Conwy]] yng nghysgod Graig-goch (588m). Ar ôl llifo am filltir heibio i'r Garnedd a Charreg y Foel-gron mae hi'n mynd dan [[Pont|bont]] fach ar y B4407. Daw ffrwd fach Afon Gam i mewn iddi o'i tharddle ar y Migneint. O fewn chwarter milltir mae afon fach arall, Nant y Groes, yn ymuno â hi ger Pont yr Afon Gam; tarddle'r afonig honno yw corsdir ar y Migneint ger [[Llyn y Dywarchen, Migneint|Llyn y Dywarchen]].<ref name="ReferenceA">Map OS 1:50,000 Landranger 124 Dolgellau.</ref>
[[Delwedd:Afon Cynfal - geograph.org.uk - 64854.jpg|250px|bawd|chwith|Afon Cynfal: Ceunant Cynfal.]]
 
Fymryn is i lawr o'r bont mae'r afon yn llifo trwy [[Ceunant Cynfal|Geunant Cynfal]], ceunant ddwfn lle ceir Rhaeadr-y-cwm; llecyn deniadol yw hyn a chyrchfa poblogaidd. Llifa'r afon yn ei blaen rhwng [[bryn]]iau [[coed]]iog i lawr i Bont Newydd lle mae priffordd yr [[A470]] yn ei chroesi. Filltir yn is i lawr mae Rhaeadr Cynfal. Yno y ceir Pwlpud [[Huw Llwyd]] a gysylltir â'r bardd-ddewin enwog hwnnw. Dywedir ei fod yn mynd yno liw nos i fyfyrio ac i gonsurio ysbrydion. Mae'r Pwlpud tafliad carreg o hen blasdy Cynfal-fawr lle ganwyd Huw Llwyd a'i berthynas [[Morgan Llwyd o Wynedd]], y cyfrinydd a llenor. Llifa'r afon yn ei blaen i ddisgyn yn syrth trwy'r Gellidywyll goediog ac [[aber]]u yn [[Afon Dwyryd]] ger Pont Tal-y-bont, sy'n cludo'r [[A496]] i [[Blaenau Ffestiniog|Flaenau Ffestiniog]].<ref name="ReferenceA"/>
 
==Llech Gronw==
[[Delwedd:Llech Gronw.jpg|250px|bawd|chwith|'Llech Gronw' ar lan afon Cynfal.]]
Llecyn arbennig ar lan Afon Cynfal yw '''Llech Gronw''' neu '''Llech Ronwy'''. Hen [[Maen hir|faen hir]] â thwll yn ei ganol ydy o, sy'n gorwedd ar ei wastad bellach ar lan yr afon ger Llety Nest yn ymyl y Bont Newydd. Yn ôl traddodiad dyma'r maen a roddodd [[Gronw Pebr]] (neu Gronwy Pefr), un o arwyr y [[Pedair Cainc y Mabinogi|Mabinogi]], rhyngddo a gwaywffon [[Lleu Llaw Gyffes]]. Roedd yn gariad i [[Blodeuwedd|Flodeuwedd]] a mynnodd Lleu Llaw Gyffes ddial arno am gysgu â'i arglwyddes a dwyn ei arglwyddiaeth oddi arno. Taflodd waywffon ato ac mi aeth drwy'r garreg a Gronw hefyd, gan ei adael yn gelain. Ceir yr hanes yn y Bedwaredd Gainc ([[Math fab Mathonwy]]). Ar ddiwedd yr adran honno o'r chwedl mae'n dweud:
:Ac yna y llas (lladdwyd) Gronwy Bebyr, ac yno y mae y llech ar lan Auon Gynuael yn Ardudwy, a'r twll drwydi. Ac o achaws hynny ettwa y gelwir Llech Gronwy.