Robin Llwyd ab Owain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen: ychwanegu Draig Goch using AWB
Cell Danwydd (sgwrs | cyfraniadau)
dramau cerdd
Llinell 4:
[[Bardd]] ac [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|Enillydd Cadair]] [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1991]] yw '''Robin Llwyd ab Owain''' (ganwyd Mehefin [[1958]]; enw barddol: '''Robin Llwyd'''). Ysgrifennodd yr awdl ''Merch Ein Amserau'' mewn dull modern ac yn ôl un o'r beirniad [[Eirian Davies]] yn ei feirniadaeth yn y cyfansoddiadau, roedd yr awdl yn "torri tir newydd".
 
Mae e hefyd wedi ysgrifennu geiriau caneuon e.e. ''Pedair Oed'' ([[Rhys Meirion]]) a ''Brenin y Sêr'' ([[Bryn Terfel]]). Ysgrifennodd sgript a geiriau caneuon y dramâu cerdd [[Ceidwad y Gannwyll]] (1985), [[Rhys a Meinir]] (1987), [[Iarlles y Ffynnon]] (1992-3) a [[Pwy bia'r Gân?]] (2003).<ref>[http://www.robatarwyn.co.uk/Pages/shows.asp robatarwyn.co.uk;] adalwyd Rhagfyr 2018.</ref>
 
Dyw e ddim wedi cyhoeddi cyfrol (papur) o'i waith, ond cyhoeddwyd ''[[Rebel ar y We]]'' ar y [[Gwe fyd-eang|we fyd-eang]] yn Rhagfyr 1996; hon oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg i'w rhoi ar y we fyd-eang.<ref>[[Llais Llyfrau]], Hydref 1997: Erthygl gan Dafydd John Pritchard; Cyhoeddwyd gan [[Cyngor Llyfrau Cymru|Gyngor Llyfrau Cymru]].</ref><ref>[https://listserv.heanet.ie/cgi-bin/wa?A2=ind9702&L=WELSH-L&P=R173&D=0&H=0&O=T&T=0 Trafodaeth ar Welsh-L yn Chwefror 1997.]</ref> Newidiwyd teitl y gyfrol ddigidol hon ar y [[22 Mai]] [[2006]] i 'Rhedeg ar Wydr'.<ref name = "GwefanRobin">[http://www.barddoniaeth.com/ Gwefan Robin llwyd]</ref>