Robin Llwyd ab Owain
Bardd ac Enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Delyn 1991 yw Robin Llwyd ab Owain (ganwyd Mehefin 1958; enw barddol: Robin Llwyd). Ysgrifennodd yr awdl Merch Ein Amserau mewn dull modern ac yn ôl un o'r beirniad Eirian Davies yn ei feirniadaeth yn y cyfansoddiadau, roedd yr awdl yn "torri tir newydd".
Robin Llwyd ab Owain | |
---|---|
Llais | Robin Owain Llais cy.ogg |
Ganwyd | Mehefin 1958 Cynwyd |
Man preswyl | Rhuthun |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor, cyhoeddwr, Wicipediwr |
Tad | Owain Owain |
Gwobr/au | Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol |
Mae o hefyd wedi ysgrifennu geiriau caneuon e.e. Pedair Oed (Rhys Meirion) a Brenin y Sêr (Bryn Terfel). Ysgrifennodd sgript a geiriau caneuon y dramâu cerdd Ceidwad y Gannwyll (1985), Rhys a Meinir (1987), Iarlles y Ffynnon (1992-3) a Pwy bia'r Gân? (2003).[1]
Nid yw wedi cyhoeddi cyfrol (papur) o'i waith, ond cyhoeddwyd Rebel ar y We ar y we fyd-eang yn Rhagfyr 1996; hon oedd y gyfrol gyntaf yn y Gymraeg i'w rhoi ar y we fyd-eang.[2][3] Newidiwyd teitl y gyfrol ddigidol hon ar y 22 Mai 2006 i 'Rhedeg ar Wydr'.[4]
Bu'n brifathro am gyfnod o tua 15 mlynedd.
Wikimedia
golyguAr 1 Gorffennaf 2013, apwyntiwyd Robin yn Reolwr cyntaf i Gymru gan Wikimedia UK a Wici Cymru.[5][6] Mae ei rôl yn bwriadu ehangu y Wicipedia Cymraeg a deunydd Cymreig ar y Wicipedia Saesneg. Fel rhan o'r cynllun hwn, cyfrannodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ariannol at hyfforddi olygyddion newydd.[6] Wrth siarad am apwyntiad Robi, dywedodd Jon Davies, Prif Weithredwr Wikimedia UK: "Mae apwyntiad Robin fel Rheolwr Cymru yn rhan hanfodol o'n strategaeth allgymorth. Y Wicipedia Cymraeg yw'r wefan Gymraeg mwyaf poblogaidd yn y byd a rydym yn falch o gefnogi'r Gymraeg."[5]
Llyfryddiaeth
golygu- Ceidwad y Gannwyll Casgliad o 10 o ganeuon i blant rhwng 8 a 14 oed; ISBN 0862433681
- Gwin Beaujolais gyda Robat Arwyn Ionawr 1991 (Y Lolfa)
- Ceidwad y Gannwyll a Chaneuon Eraill (Robat Arwyn, Ionawr 1995 (Y Lolfa)
- Iarlles y Ffynnon gyda Robat Arwyn Gorffennaf 1997 (Y Lolfa)
- Posteri Poeth (Steve Eaves, Robat Gruffudd, Robin Llwyd ab Owain, Dewi Pws) Awst 2001 (Y Lolfa)
- Pedair Oed/Mae'r Gân yn ein Huno (Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain) Rhagfyr 2006 (Cwmni Recordiau Sain)
Rhannau o fewn cyfrolau
golygu- Er Hwylio'r Haul Comisiynwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cylch 2005
- Wyth Cân, Pedair Sioe; Gwasg y Lolfa. Cerddoriaeth Robat Arwyn; geiriau gan Hywel Gwynfryn a Robin Llwyd.
- Pedair Oed/Mae'r Gân yn ein Huno Dwy gân gan Robat Arwyn a Robin Llwyd; Trefniant SATB i 'Pedair Oed'. Trefniant deulais i 'Mae'r gân yn ein huno'.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ robatarwyn.co.uk; adalwyd Rhagfyr 2018.
- ↑ Llais Llyfrau, Hydref 1997: Erthygl gan Dafydd John Pritchard; Cyhoeddwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru.
- ↑ Trafodaeth ar Welsh-L yn Chwefror 1997.
- ↑ Gwefan Robin llwyd
- ↑ 5.0 5.1 "Wikimedia UK yn penodi Rheolwr i Gymru / Wikimedia UK appoints Wales Manager". Wikimedia UK (yn Saesneg). 2013-07-02. Cyrchwyd 2013-07-25.
- ↑ 6.0 6.1 "Wicipedia Cymraeg: New manager looks to expand Wiki in Welsh". BBC News. 2013-07-02. Cyrchwyd 2013-07-25.