Mwsoglu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cat
Duncan Brown (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap iOS
Llinell 11:
:I fwsygla'r fyw siglen
:A brwyna holl Berwyn hen.<ref>Gwallter Mechain, ''Gwaith Gwallter Mechain'', gol. D. Silvan Evans (Caerfyrddin, 1868), cyfrol 1, tud. 187.</ref>
 
Mwsoglu...mwy
Yn Rhifyn 18 sonwyd am fwsogl arbennig a ddefnyddid i galcio simneoedd tair canrif yn ôl yn Sweden. Dyma hanes tebyg gan Hugh Evans, am fwsoglu, yn ei gyfrol enwog Cwm Eithin (1931):
“Yr oedd llawer o’r hen dai wedi eu hadeiladu heb forter – tyllau yn y muriau, a’r to heb ei deirio, os llechau a fyddai, ac felly yn oerion iawn. Anfonidamymwsoglwrcyndechrau’rgaeaf. Âiyntaui’rmynyddihel mwswg, lle y cai beth hir a gwydn; ac yna gyda darnau bychain o haearn tebyg i gynion ac o wahanol dewdwr, gwthiai’r mwsogl i’r tyllau gan ei guro’n galed gyda gordd fechan, yn union fel y gwneir bwrdd llong gyda charth. Osnadwyfyncamgofio,ynyMynyddMainydywedaiThomas Jones, Llidiart y Gwartheg, yr oedd y mwsoglau gorau i’w gael at y gwaith”.
A dyma ddywedodd Evan Jones (1850-1928):
“Yn yr hen amser roedd llawer o dai gwlad wedi eu toi a llechi tewion a didriniaeth iawn o’u cymharu a llechi yr oes hon, ac yr oeddynt mor arw fel yr oedd yn angenrheidiol i ddodi mwswm [mwsogl] yn ofalus yng nghysylltiadau’r llechi oll. Y prif amcan trwy hyn oedd sicrhau cerrig y to rhag y storm a gwneud yr adeilad yn fwy cysurus. Gwnaed y gwaith o fwysyny fel rheol yn yr hydref er i’r to fod yn ddiddos a diogel erbyn gerwinder y gaeaf. Yr oedd ym meddiant y mwysynwr fach bychan at y gorchwyl o dynnu mwswm.... Math arall oedd fachau llai, tebyg i grafanc ceiliog i’w ddefnyddio mewn llaw. Gwelir ar rai hen lyfrau vestries gofnodion am swm o arian wedi ei dalu i faswniaid am fwsynu toion eglwysi’r wlad.
Cymru Evan Jones - detholiad o bapurau Evan Jones Ty’n Pant, Llanwrtyd, gol. Herbert Hughes (Gomer 2009)
Unrhyw sylwadau eraill am yr hen grefft hon, ac yn enwedig y math o fwsogl a ddefnyddid yn y parthau hynny? Gall Hugh Evans yn hawdd fod yn disgrifio Fontinalis antipyretica (Rhifyn 18), ond nid yw’n byw yn arbennig yn y mynydd.
 
== Cyfeiriadau ==